Photographer Conor Elliott, from Penarth is looking to inject a fresh approach to the support for the NHS and other key workers. Last year the rainbow proved a very successful way to show support and appreciation for the NHS. Now he feels that it is as important as ever to continue that support. He is therefore asking the community to display in their windows a new symbol: a butterfly.

The butterfly is a perfect symbol to use. Like the rainbow, it is a symbol of hope. It is also seen as a very positive image of birth and regeneration. The possibilities to be creative are endless. It is an easy image to create for younger children and everyone. Conor does not want to dismiss the rainbow and, of course, it can continue to be used and even combined with the butterfly but he feels that asking people to repeat what they did last year might be a little tired. He also feels that people are very jaded by the ongoing pandemic and he wants to show the NHS that now more than ever they have not been forgotten. So by introducing a new symbol it can reinvigorate something that was successful last year.

Last year, having noticed the creative support made up of the window art of rainbows that were displayed with such affection throughout the communities of Penarth and Barry in the Vale of Glamorgan, Conor walked the streets photographing this art and created large 6ft x 4ft mosaics that were made up of thousands of photographs. The mosaics are now displayed in Llandough and Barry hospitals in the Vale.

“This is a new opportunity for the community to show the NHS and key workers that there is still massive support for them through continuing difficult times. It is a very simple concept that can have a huge impact as we are on the final push to get back to our normal lives.”

“The weather is starting to brighten. Spring is on its way. This will be a wonderful opportunity to brighten our windows again by doing something creative and to feel positive again, a chance to spread a little happiness. It would be nice to see smiles back on peoples’ faces.”

It is hoped that this can spread as far as possible. People can get involved in all kinds of ways in their own communities and be as creative as possible. It is an important way for people to show their support to something as important as the NHS, which continues to be under such huge pressure, and all key workers. Regeneration within our communities and lives is something we are facing. On a wider scale this can even send a message of hope around the world through ‘The Butterfly Effect’.

Email: conor.elliott@ntlworld.com

Website: http://www.conorelliottphotography.com

NHS mosaic blog: http://www.conorelliottphotography.com/blog

Instagram: conorelliott123

Mae’r ffotograffydd Conor Elliott o Benarth yn cynnig ffordd newydd, ffres o gefnogi’r GIG a gweithwyr gofal iechyd eraill. Y llynedd, roedd yr enfys yn ffordd lwyddiannus iawn o ddangos cefnogaeth a gwerthfawrogiad o waith y GIG. Nawr mae’n teimlo ei bod hi’n bwysicach nag erioed i barhau gyda’r gefnogaeth honno. Felly mae’n gofyn i’r gymuned arddangos symbol newydd yn eu ffenestri: pili-pala.

Mae pili-pala yn symbol perffaith i’w ddefnyddio. Fel yr enfys, mae’n symbol o obaith. Caiff ei weld fel delwedd gadarnhaol iawn o enedigaeth ac adfywiad. Mae’r posibiliadau i fod yn greadigol yn ddiddiwedd. Mae’n ddelwedd hawdd i’w chreu i blant ifanc ac i bawb. Nid yw Conor eisiau diystyru’r enfys ac, wrth gwrs, gellir parhau i’w defnyddio, a hynny ochr yn ochr â’r pili-pala hyd yn oed, ond mae’n teimlo efallai y byddai gofyn i bobl ail-adrodd yr hyn a wnaethant y llynedd yn diflasu rhai. Mae hefyd yn teimlo fod pobl wedi syrffedu ar y pandemig sy’n parhau ac mae eisiau dangos i weithwyr y GIG yn fwy nag erioed nad ydynt wedi eu hanghofio. Felly trwy gyflwyno symbol newydd, gall adfywio rhywbeth a oedd yn llwyddiannus y llynedd.

Y llynedd, ar ôl sylwi ar y gefnogaeth greadigol o luniau o enfys mewn ffenestri wedi’u harddangos gyda chymaint o gariad ledled cymunedau Penarth a’r Barri ym Mro Morgannwg, cerddodd Conor ar hyd y strydoedd yn tynnu lluniau o’r gwaith celf ac fe luniodd fosaigau 6 x 4 troedfedd enfawr wedi’u creu o filoedd o luniau. Mae’r mosaigau bellach yn cael eu harddangos yn ysbytai Llandochau a’r Barri yn y Fro.

“Mae hwn yn gyfle newydd i’r gymuned ddangos i’r GIG ac i weithwyr allweddol bod y gefnogaeth enfawr yn parhau trwy’r amseroedd anodd hyn. Mae’n gysyniad syml iawn sy’n gallu cael effaith enfawr wrth i ni gyrraedd rhan olaf yr ymdrech i ddychwelyd at normalrwydd”.

“Mae’r tywydd yn dechrau gwella. Mae’r gwanwyn ar ei ffordd. Bydd hwn yn gyfle hyfryd i lonni ein ffenestri unwaith eto trwy wneud rhywbeth creadigol ac i deimlo’n gadarnhaol eto, ac yn gyfle i rannu rywfaint o hapusrwydd. Byddai’n hyfryd gweld gwên nôl ar wynebau pobl.”

Y gobaith yw y gall hyn ledaenu mor bell â phosibl. Gall pobl gymryd rhan mewn pob math o ffyrdd yn eu cymunedau eu hunain a bod mor greadigol â phosibl. Mae’n ffordd i bobl ddangos eu cefnogaeth i rywbeth mor bwysig â’r GIG, sy’n parhau i fod o dan bwysau aruthrol, ac i’r holl weithwyr allweddol. Mae adfywiad o fewn ein cymunedau a’n bywydau yn rhywbeth rydym yn ei wynebu. Ar raddfa ehangach, gall hyn hyd yn oed anfon neges o obaith ledled byd trwy ‘Effaith Pili-pala’.

E-bost: conor.elliott@ntlworld.com

Gwefan: http://www.conorelliottphotography.com

Blog mosäig y GIG: http://www.conorelliottphotography.com/blog

Instagram: conorelliott123

Leave a Reply