The Hearth Gallery is delighted to welcome you to the virtual exhibition The Female Interpretation, a group exhibition by three local female photographers who all share interests in the subjects and themes of Architecture, Creative Wellbeing and the Welsh landscape, all through experimental and professional photography.

Working in vibrant and diverse styles of photography, Michaela Ismail, Susan Williams and Susan Griffiths showcase the many ways in which photography can be used. By exploring the ways in which a subject can be photographed, the artworks featured in this exhibition tell both obscure and honest stories of nature, meaningful places and moments and emotions captured in time.

Susan, Michaela and Susan met in 2013 when they enrolled at Bridgend College to study for six years part time for an honours degree in Photographic Practices. During this time, as well as cultivating their photography skills, they developed a lasting friendship. Their photographic styles may be different, but their passion for the art of photography has forged a lifelong bond.

In celebration of International Women’s Day on the 8th March, these three female artists have come together to applaud women’s achievement through this collaborative exhibition.

A selection of these artworks will also be on display in our Plaza Exhibition Space at University Hospital Llandough from March 30th – 11th May 2021 for our patients and staff to enjoy. The Virtual Gallery will also be available until 11th May 2021.

If you require further information on any of the artworks on show, please contact Molly Lewis, the Gallery Coordinator on molly.lewis3@wales.nhs.uk

Michaela Ismail

Michaela has recently graduated with a BA (Hons) Photography having studied part time for the past 6 years as well as being a Mother to two mature sons and two young daughters and a carer to her mother.

During her lifetime Michaela has suffered trauma, triggering various levels of anxieties and whilst she can now identify the triggers, in the past various situations were almost impossible to endure. Since commencing her degree Michaela has used her Photography as a means of therapy. Her camera allows her to focus on what is around her rather than what is going on her in personal life and has therefore used her camera to produce something creative.

The images in this series were taken late 2019 and early 2020 at Porthcawl Beach when it was hit by the storms. With winds ranging from 50 to 80 mph the sea raged and the waves battered the shoreline. Whilst most people would stay away from the coast in this weather it was a time where Michaela would feel comfortable.

“’Powerless’ is a body of work comprised of moving and still images taken at Porthcawl beach during the height of the storms in 2019/20. The project is autobiographical and attempts to capture personal traumatic experience and express my feelings about the loss of my father to the sea when I was a child. The elements, together, act as a metaphor for my feelings of acute loss and anger I experienced then, and that are still with me today.”

-Michaela Ismail MStJ BA (Hons)

Michaela has also put together a video of her work which includes an audio.

Susan Griffiths

Susan Griffiths, Reverie 5

I was a mature student, realising my dream on retirement. Six years’ of part-time study gained me not only a B.A. Hons. in Photographic Practice, but friends for life and a focus and enjoyment that I can take with me wherever I go. It is not retirement but a new phase of enjoyment!

For my final degree exhibition I focused on the sea, which has long been a love of mine. I enjoy using various camera techniques and producing images that focus on colour and form (impressionist images) as well as the traditional pin sharp images.

I compiled a body of work spanning a period of 7 months. I visited the same local coastline at various times of the day and in differing weather conditions, with 3 different vantage points being used. I live locally to the coastline photographed but even with intimate knowledge of this coastline, there were daily visits seeking the perfect conditions to produce my vision with the aid of various photographic techniques.

Susan Griffiths, Reverie 2

For this body of work inspiration was gained from a selection of artists, poets and others; their quotes aiding my vision of what I wished to portray. An example being, ‘How terrible the world seems to those who do not know themselves! When you felt so alone and abandoned in the presence of the sea, imagine what solitude the waters must have felt in the night, or the night’s own solitude in a universe without end’. – Gaston Bachelard

It was this emotion that I would like the viewer to feel and to focus on water and how, without a horizon line, it stretches to infinity. We are aware that beyond the horizon line there is an endless flow of water which covers more than 70% of our planet and is constantly ebbing and flowing, constantly changing with weather and tide. The swell of the water and the drive of the waves on a stormy or windy day batters our sea defences but movement of the water on a calm day can also be seen; the water is constantly in motion. It is a display of nature that no human can prevent or equalise. On a cloudy day the water is colourless but it could be the wave pattern that captures one’s attention. There is beauty on a sunny day with the colour of the sky reflecting off the water; the line of yellow on the sea at sunset informs us that another day is coming to a close. It is at this point inspiration can be taken from a quote, ‘The sea will grant each man new hope, and sleep will bring dreams of home…’, Christopher Columbus.

-Susan Griffiths

Susan Williams

Susan Williams, Untitled 1

I believe people miss so much of the world around them, life today is so fast. So by purposely initiating movement in an image I want to provoke a reaction from the viewer and compel them to take a second or even third look.

I want to use the technique of ICM to demonstrate that there can be creative images produced ‘in camera’

Intentional Camera Movement is an exciting form of photography with some truly amazing images. However the name ICM detracts from the approach reducing it to the action rather than the notion of a context and an interpretation. To me something like ‘Photo Impressionism’ encapsulates its essence and underscores the notion that it is purposeful planning with an outcome being the personal expression of a photographer’s idea. It is quite difficult to achieve and practising is necessary but also very engrossing.

The images produced are not to everyone’s taste but I would urge people to take time to explore this type of art which captures an essence for the observer to interpret in their own way, rather than present them with an explicit reproduction of a scene. There is some truly inspirational and great work around. Practicing it is much, much harder than I had realised and takes much skill, time, effort and experience but it is very exciting and, I believe, part of the evolution of art using the photographic tools in this century.

-Susan Williams

Susan Williams, Untitled 4

Mae Oriel yr Aelwyd yn falch o’ch croesawu i’r arddangosfa rithwir Y Dehongliad Benywaidd, arddangosfa grŵp gan dri ffotograffydd benywaidd sydd oll â diddordeb ym mhynciau a themâu Pensaernïaeth, Lles Creadigol a thirwedd Cymru, a’r cyfan drwy ffotograffiaeth arbrofol a phroffesiynol.

Gan ddefnyddio arddulliau ffotograffiaeth bywiog ac amrywiol, mae Michaela Ismail, Susan Williams a Susan Griffiths yn arddangos y ffyrdd niferus y gellir defnyddio ffotograffiaeth. Drwy archwilio’r ffyrdd y gellir tynnu llun o’r pwnc, mae’r gwaith celf a geir yn yr arddangosfa hon yn adrodd straeon dyrys a gonest am natur, lleoedd ystyrlon a phrofiadau ac emosiynau wedi’u crisialu dros amser.

Cyfarfu Susan, Michaela a Susan yn 2013 pan wnaethant gofrestru yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr i astudio gradd anrhydedd mewn Ymarferion Ffotograffig yn rhan amser dros chwe blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â datblygu eu sgiliau ffotograffiaeth, gwnaethant ddatblygu cyfeillgarwch hirhoedlog. Efallai bod eu harddulliau ffotograffig yn wahanol, ond mae eu hangerdd dros gelfyddyd ffotograffiaeth yn eu cysylltu’n barhaus.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, mae’r tri artist benywaidd hyn wedi dod at ei gilydd i gymeradwyo cyflawniadau menywod drwy’r arddangosfa gydweithredol hon.

Bydd detholiad o’r gwaith celf hwn hefyd yn cael ei arddangos yn ein Gofod Arddangos yn y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau o 30 Mawrth i 11 Mai 2021 i’n holl gleifion a staff ei fwynhau. Bydd yr Oriel Rithwir hefyd ar gael hyd 11 Mai 2021.

Os hoffech ragor o wybodaeth ar y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, cysylltwch â Molly Lewis, Cydlynydd yr Oriel ar molly.lewis3@wales.nhs.uk

Michaela Ismail

Michaela Ismail, Cthulhu, Storm Ciara, Porthcawl

Gwnaeth Michaela raddio’n ddiweddar gyda BA (Anrhydedd) mewn Ffotograffiaeth, ar ôl astudio’n rhan amser dros y chwe blynedd diwethaf yn ogystal â bod yn fam i ddau fab hŷn a dwy ferch fach ac yn ofalwr i’w mam.

Yn ystod ei bywyd mae Michaela wedi dioddef trawma, wnaeth sbarduno lefelau amrywiol o orbryder, ac er ei bod bellach yn gallu nodi’r sbardunau, yn y gorffennol, roedd amryw sefyllfaoedd bron yn amhosibl i’w goddef. Ers dechrau ei gradd mae Michaela wedi defnyddio ei Ffotograffiaeth fel therapi. Mae ei chamera’n gadael iddi ganolbwyntio ar yr hyn sydd o’i chwmpas yn hytrach na’r hyn sy’n digwydd yn ei bywyd personol, ac felly mae wedi defnyddio ei chamera i gynhyrchu rhywbeth creadigol.

Tynnwyd y lluniau yn y gyfres hon ar ddiwedd 2019 a dechrau 2020 ar draeth Porthcawl, pan gafodd ei daro â’r stormydd. Gyda gwyntoedd yn amrywio o 50 i 80 mya, roedd y môr yn arw tu hwnt a’r tonnau’n dyrnu ymyl y traeth. Tra byddai’r rhan fwyaf o bobl yn aros i ffwrdd o’r arfordir yn ystod y tywydd hwn, roedd yn adeg lle y byddai Michaela’n teimlo’n gyfforddus.

Mae ‘Di-rym’ yn gorff o waith sy’n cynnwys lluniau symudol a llonydd a dynnwyd ar draeth Porthcawl yn ystod uchafbwynt y stormydd yn 2019/2020. Mae’n brosiect hunangofiannol sy’n anelu at grisialu profiad trawmatig personol, ac yn gyfle i fi fynegi fy nheimladau ynghylch colli fy nhad i’r môr pan oeddwn yn blentyn. Mae’r elfennau, gyda’i gilydd, yn drosiad ar gyfer fy nheimladau, sef y golled a’r dicter ofnadwy a brofais bryd hynny, ac sy’n dal i fod gyda mi heddiw.

-Michaela Ismail MStJ BA (Anrhydedd)

Susan Griffiths

Susan Griffiths, Reverie 6

Roeddwn yn fyfyriwr aeddfed, yn gwireddu fy mreuddwyd ar fy ymddeoliad. Yn dilyn chwe blynedd o astudiaeth ran-amser llwyddais i gael nid yn unig B.A Anrhydedd mewn Ymarfer Ffotograffig, ond ffrindiau oes hefyd, a ffocws a mwynhad y gallaf fanteisio arnynt lle bynnag yr af. Nid ymddeoliad mohono, ond cyfnod newydd o fwynhad!

Ar gyfer fy arddangosfa gradd derfynol canolbwyntiais ar y môr, sef rhywbeth yr wyf bob amser wedi bod yn angerddol drosto. Rwy’n mwynhau defnyddio technegau camera amrywiol a chynhyrchu lluniau sy’n canolbwyntio ar liw a ffurf (lluniau argraffiadol) yn ogystal â’r lluniau eglur a manwl traddodiadol.

Lluniais gorff o waith yn cwmpasu cyfnod o 7 mis. Ymwelais â’r un arfordir lleol ar adegau amrywiol o’r dydd ac mewn amodau tywydd gwahanol, a defnyddiais 3 man ffafriol gwahanol. Rwy’n byw yn agos at yr arfordir sydd yn y ffotograffau, ond hyd yn oed gyda gwybodaeth fanwl am yr arfordir hwn, bu’n rhaid i fi ymweld yn ddyddiol er mwyn ceisio cael yr amodau perffaith i gyfleu fy ngweledigaeth gyda chymorth technegau ffotograffig gwahanol.

Ar gyfer y corff hwn o waith, cefais ysbrydoliaeth gan ddetholiad o artistiaid, beirdd ac eraill; gyda’u dyfyniadau yn ategu fy ngweledigaeth o’r hyn roeddwn am ei gyfleu. Un enghraifft o hyn oedd, ‘Pa mor ofnadwy yr ymddengys y byd i’r rhai nad ydynt yn adnabod eu hunain! Pan roeddech yn teimlo mor unig ac ar goll ym mhresenoldeb y môr, dychmygwch yr unigrwydd y mae’n rhaid bod y dyfroedd wedi’i deimlo yn y nos, neu unigrwydd y nos ei hun mewn byd diderfyn’. – Gaston Bachelard

Dyma’r emosiwn yr oeddwn am i’r sawl oedd yn gwylio ei deimlo, ac i ganolbwyntio ar ddŵr a sut, heb linell gorwel, y mae’n ymestyn i anfeidredd. Gwyddom, y tu hwnt i linell y gorwel, fod llif diderfyn o ddŵr sy’n gorchuddio dros 70% o’n planed ac sy’n mynd ar drai ac ar lanw’n gyson, gan newid yn barhaus gyda’r tywydd a’r llanw. Mae ymchwydd y dŵr a gyriant y tonnau ar ddiwrnod stormus neu wyntog yn dyrnu amddiffynfeydd y môr ond gellir gweld symudiad y dŵr ar ddiwrnod llonydd hefyd; mae’r dŵr yn symud yn barhaus. Mae’n arddangosiad o natur na all unrhyw fod dynol ei atal na’i gyfartalu. Ar ddiwrnod cymylog mae’r dŵr yn ddi-liw ond gallai patrwm y tonnau ddenu sylw rhywun. Mae harddwch ar ddiwrnod heulog gyda lliw’r awyr yn adlewyrchu ar y dŵr; mae’r llinell o felyn ar y môr ar fachlud haul yn ein hysbysu bod diwrnod arall yn dirwyn i ben. Ar y pwynt hwn gellir cymryd ysbrydoliaeth o ddyfyniad, ‘Rhydd y môr obaith newydd i bob dyn, a daw cwsg â breuddwydion am gartref..’, Christopher Columbus.

-Susan Griffiths

Susan Williams

Susan Williams, Untitled 2

Rydw i’n credu nad yw pobl yn sylwi digon ar y byd o’u cwmpas, mae bywyd heddiw yn symud mor gyflym. Felly trwy gynnwys symudiad mewn llun yn fwriadol, rydw i eisiau ysgogi ymateb gan y gwyliwr a’i annog i edrych ar y llun am yr ail neu’r trydydd tro hyd yn oed.

Rydw i eisiau defnyddio’r dechneg o symud y camera’n fwriadol (ICM) er mwyn dangos y gellir creu lluniau creadigol ‘gyda’r camera’

Mae Symud y Camera’n Fwriadol yn ffurf gyffrous o ffotograffiaeth gyda rhai lluniau gwirioneddol ragorol. Fodd bynnag mae’r enw ICM yn tynnu oddi ar y dull gan ei fychanu i’r weithred yn hytrach nac i’r syniad o gyd-destun a dehongliad. I fi, mae rhywbeth fel ‘Argraffiadaeth Llun’ yn crisialu ei hanfod ac yn tanlinellu’r syniad ei fod yn rhywbeth wedi’i gynllunio’n bwrpasol a bod y canlyniad yn fynegiant personol o syniad y ffotograffydd. Mae’n eithaf anodd ei gyflawni ac mae ymarfer yn hollbwysig ond hefyd yn gyfareddol.

Nid yw’r lluniau a gynhyrchir at ddant pawb ond byddwn yn annog pobl i dreulio amser yn archwilio’r math yma o gelf sy’n cipio hanfod i’r gwyliwr gael ei ddehongli yn ei ffordd ei hun, yn hytrach na chyflwyno atgynhyrchiad amlwg o olygfa. Mae yna waith gwych a hynod ysbrydoledig i gael. Mae ymarfer y grefft gymaint yn anoddach nag oeddwn i wedi’i ddychmygu ac mae angen llawer o sgil, amser, ymdrech a phrofiad ond mae’n hynod gyffrous ac, yn fy marn i, mae’n rhan o esblygiad celf y ganrif hon gan ddefnyddio adnoddau ffotograffiaeth.

Susan Williams

One thought on “The Female Interpretation

Leave a Reply