We are pleased to invite you to view The Hearth Gallery’s Summer Online Exhibition 2020.
Usually this time of year the Hearth Gallery at University Hospital Llandough showcases a variety of artwork from staff members, visitors and artists within the community as part of our annual Open Call Summer Exhibition.
However, this year, despite the constraints imposed by the coronavirus crisis, we have turned to a new and exciting digital platform to share with you our Summer Exhibition virtually!
The arts have a huge impact on our health and wellbeing and for so many people, creating new and exciting artworks have been a huge relief in the daily struggle of the pandemic over the past months.
At Cardiff and Vale University Health Board we believe strongly in the ability of the Creative Arts to improve the everyday lives and wellbeing of our staff, patients and visitors so whilst we are launching our Summer Exhibition Online, we will be continuing to use this platform to enhance our Arts programme at the Health Board in the future.
Whilst we are still yet to open the main Hearth Gallery at University Hospital Llandough, we are delighted to showcase artwork by twelve artists with a variety of paintings, drawings, photography and prints:
Anna Polya, Aidan Myers, David Gould, Felicity Lockyear, Joanna Waring, Jo Rigby, June Price, Melanie Wotton, Sam Burns, Stephen Thomas, Sue Hunt and Tina Neale.
We hope you enjoy viewing our Summer Exhibition.
For more information or any artwork enquiries, please email molly.lewis3@wales.nhs.uk
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i weld Arddangosfa Haf Ar-lein Oriel yr Aelwyd 2020.
Fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn mae Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau yn arddangos amrywiaeth o weithiau celf gan staff, ymwelwyr ac artistiaid yn y gymuned fel rhan o’n Harddangosfa Haf Galwad Agored flynyddol.
Fodd bynnag, eleni, er gwaethaf y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd argyfwng y coronafeirws, rydym wedi troi at lwyfan digidol newydd a chyffrous i rannu ein Harddangosfa Haf rithwir!
Mae’r celfyddydau’n cael effaith enfawr ar ein hiechyd a’n lles ac i gynifer o bobl, mae creu gweithiau celf newydd a chyffrous wedi bod yn rhyddhad enfawr yn ystod ymdrech ddyddiol y pandemig dros y misoedd diwethaf.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rydym yn credu’n gryf yng ngallu’r Celfyddydau Creadigol i wella lles a bywydau pob dydd ein staff, ein cleifion a’n hymwelwyr, felly yn ogystal â lansio ein Harddangosfa Haf Ar-lein, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r llwyfan hwn i wella ein rhaglen Gelfyddydau yn y Bwrdd Iechyd yn y dyfodol.
Er nad ydym wedi agor y brif ran o Oriel yr Aelwyd eto yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau, rydym yn falch iawn o arddangos gwaith celf gan dri ar ddeg o artistiaid gydag amrywiaeth o baentiadau, darluniau, ffotograffau a phrintiau. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gweld ein Harddangosfa Haf.
Diolch i’r tri ar ddeg o artistiaid sy’n rhan o’n harddangosfa rithwir gyntaf:
Anna Polya, Aidan Myers, David Gould, Felicity Lockyear, Joanna Waring, Jo Rigby, June Price, Melanie Wotton, Sam Burns, Stephen Thomas, Sue Hunt, Tom Martin a Tina Neale.
I gael rhagor o wybodaeth neu am unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gwaith celf, anfonwch e-bost at molly.lewis3@wales.nhs.uk