
Every year, PRIDE is celebrated at Cardiff & Vale Health Charity and The Arts for Health and Wellbeing Programme is proud to stand alongside this community and be an ally for all. This year, our PRIDE celebration includes a portrait of Professor Tracy Myhill OBE by Nathan Wyburn.
Tracy has a long and distinguished career with 37 years’ experience within the NHS, including working as Chief Executive within the ambulance sector, Chief Executive and Deputy Chief Executive of integrated health boards, HR Director nationally and locally and has experience in Chair and Non-Executive Director roles in the public sector.
Tracy, who is married to her wife Dee with their four grown up children, has been recognised for her energetic and charismatic approach to advocating equality and diversity in the workplace – not just within NHS Wales but also across ambulance services and the NHS in the UK – securing a Stonewall Cymru Role Model of the Year accolade in 2015 and numerous listings in the Pinc List (the 40 most influential LGBT people in Wales).
Tracy’s determined belief in hard work and fairness has secured her a number of accolades and recognition, namely the Institute of Directors (IOD) Wales Public Sector Director of the Year award, the Healthcare People Management Association (HPMA) UK President’s Award for Outstanding Contribution to Healthcare HR Management; Honorary Colonel of 203 Welsh Field Hospital; leader category winner of Chwarae Teg’s Womenspire Awards 2019; winner of the Leading Wales Awards 2019 for Leadership in the Public Sector; and honorary Professor at Swansea University Medical School.
Tracy began her career in 1984 as a Receptionist in the Dental Hospital and then worked at the University Hospital of Wales and University Hospital of Wales Llandough, before leaving to work as HR Director in Gwent before returning to Cardiff and Vale UHB between 2009 and 2014. Her last role within the UHB was Director of Workforce and Organisational Development and Deputy Chief Executive.
Tracy remembers her time at Cardiff & Vale UHB fondly and is delighted to collaborate with the Arts for Health and Wellbeing programme in this project, raising the profile of the LGBTQ+ community, and supporting the role of the Arts in Health and Wellbeing in addressing equality and diversity.
Tracy Myhill OBE

Bob blwyddyn, mae PRIDE yn cael ei ddathlu yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o sefyll ochr yn ochr â’r gymuned hon a bod yn gyfaill i bawb. Eleni, mae ein dathliad PRIDE yn cynnwys portread o’r Athro Tracy Myhill OBE gan Nathan Wyburn.
Mae gan Tracy yrfa hir a nodedig gyda 37 mlynedd o brofiad o fewn y GIG, gan gynnwys gweithio fel Prif Weithredwr yn y sector ambiwlans, Prif Weithredwr a Dirprwy Brif Weithredwr byrddau iechyd integredig, Cyfarwyddwr AD yn genedlaethol ac yn lleol ac mae ganddi brofiad fel Cadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol yn y sector cyhoeddus.
Mae Tracy, sy’n briod â’i gwraig Dee ac sydd â phedwar o blant hŷn, wedi cael ei chydnabod am ei hagwedd egnïol a charismatig at hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle – nid yn unig o fewn GIG Cymru ond hefyd ar draws gwasanaethau ambiwlans a’r GIG yn y DU – cafodd wobr Model Rôl y Flwyddyn Stonewall Cymru yn 2015 ac mae wedi’i chynnwys droeon ar y Rhestr Binc (y 40 o bobl LHDT mwyaf dylanwadol yng Nghymru).
O ganlyniad i gred benderfynol Tracy mewn gwaith caled a thegwch mae wedi cael nifer o wobrau a chydnabyddiaeth helaeth, sef gwobr Cyfarwyddwr Sector Cyhoeddus y Flwyddyn Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IOD) Cymru, Gwobr Llywydd y DU Cymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd (HPMA) am Gyfraniad Eithriadol i Reolaeth AD Gofal Iechyd; Cyrnol Anrhydeddus Ysbyty Maes Cymru 203; enillydd categori arweinydd Gwobrau Womenspire 2019 Chwarae Teg; enillydd Gwobrau Arwain Cymru 2019 ar gyfer Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus; ac Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.
Dechreuodd Tracy ei gyrfa ym 1984 fel Derbynnydd yn yr Ysbyty Deintyddol ac yna bu’n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Cymru Llandochau, cyn gadael i weithio fel Cyfarwyddwr AD yng Ngwent a wedyn dychwelyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rhwng 2009 a 2014. Ei rôl olaf o fewn y BIP oedd Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a Dirprwy Brif Weithredwr.
Mae gan Tracy atgofion annwyl o’i hamser yn BIP Caerdydd a’r Fro, ac mae’n falch iawn o gydweithio â rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ar y prosiect hwn, gan godi proffil y gymuned LHDTC+ a chefnogi rôl y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles wrth fynd i’r afael â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
