
The Hearth Gallery is delighted to present the ‘Photography for Older People’ exhibition by Cardiff u3a. The UK-wide u3a movement provides opportunities for retired and semi-retired people to come together to enjoy good company and to learn together, not for qualifications, but for its own reward. This exhibition celebrates creativity in older age, and forging meaningful connections to improve health and wellbeing.

We very much hope the exhibits on show might provide an opportunity for respite to those who are unwell, to their worried families, and to staff throughout the hospital to whom we all owe a great deal. We also hope it will provide a timely reminder that learning together, having fun, enjoying each other’s company, and helping others do so, enriches our lives.
The u3a was once described as a provider of ‘youth’ clubs for older people but it is much, more than that. Internationally u3a passionately believes that when older people retire from mainstream work they should not to have abandon past interests or surrender their skills. Instead they should be encouraged to maintain past interests and develop new ones, and use them in order to learn from each other once they retire from work.
The Cardiff u3a is well established and now offers more than 40 activities to people in their third age. You can find more details of what’s on offer by Googling ‘Cardiff U3A activities’ or going to https://cardiffu3a.org/


Cardiff has two groups, one long established, and the other a overflow group formed about 3 years ago. Neither group takes itself too seriously. They don’t have competitions but they do have a lot of fun. The emphasis in both groups is on developing practical and technical skills regardless of whether you are still using an old camera, a camera on your smart phone or tablet, or anything in between.
The images you will see on display are an eclectic mix both in terms of genre and skill level. You will see a wide range of photographic interests on show including several table top and creative images a good number of which were taken during Covid-19 lockdowns periods. During those dark days your camera was often your closest friend. You will also see some stunning landscapes and nature images taken after Covid-19, when travel was much less restricted.
Whatever your taste in photography we do hope you like what is on display that it will encourage you to have a go yourself.
-Cardiff u3a

The ‘Photography for Older People’ exhibition will run until 23rd October.
For more information about the Hearth Gallery, the associated exhibition spaces and the Arts for Health and Wellbeing Programme, please visit http://www.cardiffandvale.art and our social media pages on Facebook, Twitter and Instagram @thehearthgallery @CAVuhbArts
If you require further information or to purchase any of the artworks on show, or would like to be included in future exhibitions please contact: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk

Mae’n bleser gan Oriel yr Aelwyd gyflwyno arddangosfa ‘Photography for Older People’ gan Cardiff u3a. Mae’r mudiad u3a ledled y DU yn darparu cyfleoedd i bobl sydd wedi ymddeol a lled-ymddeol ddod at ei gilydd i fwynhau cwmni da ac i ddysgu gyda’i gilydd; nid i ennill cymwysterau, ond er budd personol. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn, a meithrin cysylltiadau ystyrlon i wella iechyd a lles.

Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd yr hyn sy’n cael ei arddangos yn cynnig cyfle am seibiant i’r rhai sy’n sâl, i’w teuluoedd pryderus, ac i staff ar draws yr ysbyty y mae pob un ohonom yn ddyledus iawn iddynt. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn nodyn atgoffa amserol bod dysgu gyda’n gilydd, cael hwyl, mwynhau cwmni ein gilydd, a helpu eraill i wneud hynny, yn cyfoethogi ein bywydau.
Disgrifiwyd yr u3a ar un adeg fel darparwr clybiau ‘ieuenctid’ i bobl hŷn, ond mae’n llawer mwy na hynny. Yn rhyngwladol mae u3a yn credu’n gryf, pan fydd pobl hŷn yn ymddeol o waith prif ffrwd, na ddylent orfod rhoi’r gorau i’w diddordebau blaenorol nac anghofio eu sgiliau. Yn hytrach, dylid eu hannog i gynnal eu diddordebau blaenorol a datblygu rhai newydd, a’u defnyddio er mwyn dysgu gan ei gilydd unwaith y byddant wedi ymddeol.
Mae Cardiff u3a wedi’i hen sefydlu ac mae bellach yn cynnig dros 40 o weithgareddau i bobl yn eu trydedd oes. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am yr hyn sydd ar gael drwy chwilio am ‘Cardiff U3A activities’ ar Google neu fynd i https://cardiffu3a.org/
Mae gan Gaerdydd ddau grŵp, un wedi’i sefydlu ers tro, a’r llall yn grŵp gorlif a ffurfiwyd tua 3 blynedd yn ôl. Nid yw’r naill grŵp na’r llall yn cymryd eu hunain o ddifrif yn ormodol. Nid ydynt yn cynnal cystadlaethau ond maen nhw’n cael llawer o hwyl. Mae’r pwyslais yn y ddau grŵp ar ddatblygu sgiliau ymarferol a thechnegol, p’un a ydych chi’n dal i ddefnyddio hen gamera, camera ar eich ffôn clyfar neu dabled, neu unrhyw beth rhwng y ddau.


Mae’r lluniau y byddwch yn eu gweld yn cael eu harddangos fel cymysgedd eclectig o ran genre a lefel y sgiliau. Fe welwch ystod eang o ddiddordebau ffotograffig yn cael eu harddangos gan gynnwys nifer o luniau pen bwrdd a delweddau creadigol, gyda nifer dda ohonynt wedi’u tynnu yn ystod cyfnodau clo COVID-19. Yn ystod y dyddiau tywyll hynny, eich camera yn aml oedd eich ffrind agosaf. Byddwch hefyd yn gweld rhai tirweddau trawiadol a delweddau natur a gafodd eu tynnu ar ôl COVID-19, pan oedd llai o gyfyngiadau ar deithio.
Beth bynnag yw eich chwaeth o ran ffotograffiaeth, rydym yn gobeithio y byddwch yn hoffi’r hyn sy’n cael ei arddangos ac y bydd yn eich annog i roi cynnig arni eich hun.
-Cardiff u3a

Bydd yr arddangosfa ‘Photography for Older People’ i’w gweld tan 23 Hydref.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Oriel yr Aelwyd, yr ardaloedd arddangos cysylltiedig a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i http://www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram @thehearthgallery @CAVuhbArts
I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk