
A unique art gallery situated in a Welsh hospital has secured valuable funding to ensure it can offer future exhibitions for patients, staff and visitors to enjoy.
National Grid Electricity Distribution has become the first sponsor of the Hearth Gallery at Llandough Hospital in Cardiff, a contemporary space in the heart of a clinical setting using art to promote mental and physical wellbeing.
Magda Lackowska, Hearth Gallery’s Exhibitions Co-ordinator, said: “On behalf of the Arts for Health and Wellbeing Team, I would like to say an enormous thank you to National Grid for sponsoring the Hearth Gallery. We are thrilled to receive the generous contribution that will support the exhibition programme, and will help us produce a catalogue of the year’s exhibitions.”
“We are also very excited to promote and raise awareness of National Grid’s Priority Services Register (PSR), an important resource that provides extra support during power cuts to the most vulnerable members of our community.”
Ruth Adams, National Grid Electricity Distribution’s Marketing & Digital Communications Manager, said: “The Hearth Gallery enhances the healing environment at Llandough Hospital and is clearly valued by patients, volunteers and staff.”
“We’re delighted to sponsor it and partner with the gallery in telling more people about the free support we offer during a power cut to very ill, elderly and disabled people, as well as those who rely on electricity for medical equipment.”
The PSR provides a dedicated and direct number for customers to call during a power cut to get straight through to a National Grid advisor. As part of the PSR, National Grid will:
- Agree on a password with customers before they visit, so the person at the door can be trusted
- Provide special help through trusted partners such as British Red Cross if customers need it
- Keep customers up-to-date on any planned interruptions to power supply
- Stay in touch with customers during an unplanned power cut, including advice on how long it will last
Learn more, including how to sign up to the PSR, here.

Mae oriel gelf unigryw wedi’i lleoli mewn ysbyty yng Nghymru wedi sicrhau cyllid gwerthfawr sy’n golygu y gall gynnig arddangosfeydd i gleifion, staff ac ymwelwyr eu mwynhau yn y dyfodol.
National Grid Electricity Distribution yw noddwr cyntaf Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Llandochau yng Nghaerdydd, gofod cyfoes yng nghanol lleoliad clinigol sy’n defnyddio celf i hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol.
Dywedodd Magda Lackowska, Cydlynydd Arddangosfeydd Oriel yr Aelwyd: “Ar ran Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Grid Cenedlaethol am noddi Oriel yr Aelwyd. Rydym wrth ein bodd yn derbyn y cyfraniad hael a fydd yn cefnogi’r rhaglen arddangos, ac yn ein helpu i gynhyrchu catalog o arddangosfeydd y flwyddyn.”
“Rydym hefyd yn hynod gyffrous i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR) y Grid Cenedlaethol, adnodd pwysig sy’n darparu cymorth ychwanegol pan fydd toriadau pŵer i aelodau mwyaf agored i niwed ein cymuned.”
Dywedodd Ruth Adams, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Digidol National Grid Electricity Distribution: “Mae Oriel yr Aelwyd yn gwella’r amgylchedd iacháu yn Ysbyty Llandochau ac mae’n amlwg ei fod yn cael ei werthfawrogi gan gleifion, gwirfoddolwyr a staff.”
“Rydym yn falch iawn o noddi a gweithio mewn partneriaeth â’r oriel, wrth ddweud wrth fwy o bobl am y cymorth rhad ac am ddim rydym yn ei gynnig pan fydd toriad pŵer i bobl sâl iawn, oedrannus ac anabl, yn ogystal â’r rhai sy’n dibynnu ar drydan ar gyfer offer meddygol.”
Mae’r PSR yn darparu rhif pwrpasol ac uniongyrchol y gall cwsmeriaid ei ffonio pan fydd toriad pŵer er mwyn cysylltu’n syth â chynghorydd y Grid Cenedlaethol. Fel rhan o’r PSR, bydd y Grid Cenedlaethol yn:
- Cytuno ar gyfrinair gyda chwsmeriaid cyn iddynt ymweld, fel y gellir ymddiried yn y person wrth y drws
- Darparu cymorth arbennig trwy bartneriaid dibynadwy fel y Groes Goch Brydeinig os oes ei angen ar gwsmeriaid
- Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am unrhyw doriadau pŵer arfaethedig
- Cadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid pan fydd toriad pŵer heb ei gynllunio, gan gynnwys eu cynghori ar ba mor hir y bydd yn para
Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer y PSR, yma.