Geraint Ross Evans was commissioned by the Arts in Health and Wellbeing team to produce an artwork in celebration of the NHS’s 75th anniversary. Geraint met with a selection of local health and wellbeing community groups across Cardiff and the Vale of Glamorgan to experience and capture their activities and wellbeing strategies first-hand. These experiences have been reimagined in his studio into this large-scale drawing of unfolding events over the course of one day.

“The NHS is one of the great positive shifts that have taken place in our modern society, providing free health treatment at the point of access. It is an example of an ambitious utopian dream that has been realised, that has improved the quality of life across our nation. This artwork looks towards a future where a similar leap is made for mental health and wellbeing, a structural shift of social and economic magnitude, where long term health and community are the goals and happiness is the measurement.

“Within the unfolding landscape, people are involved in activities that thrust them into the present of their lives, rather than distracting them from it. The people, most of whom are real residents of Cardiff and the Vale of Glamorgan, are connecting both with themselves but also with each other through acts of kindness, giving, shared experiences, exercise and the arts. This artwork lays out a utopian vision for what Wales could look and feel like, inspired by the good work that is already taking place.”

Dawns Bywyd (The Dance of Life) is on display at University Hospital Llandough and a smaller image will be exhibited at University Hospital of Wales

Dathlu’r GIG am 75!

Comisiynwyd Geraint Ross Evans gan dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles i gynhyrchu darn o waith celf i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed. Bu Geraint yn cwrdd â detholiad o grwpiau cymunedol iechyd a lles lleol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i gael profiad uniongyrchol o’u gweithgareddau a’u strategaethau lles, a’u cofnodi. Mae’r profiadau hyn wedi cael eu hailddychmygu yn ei stiwdio, gan arwain at y darlun mawr hwn o ddigwyddiadau sy’n datblygu dros gyfnod o un diwrnod.

“Y GIG yw un o’r newidiadau cadarnhaol gwych sydd wedi digwydd yn ein cymdeithas fodern, gan ddarparu triniaeth iechyd am ddim o’r cychwyn. Mae’n enghraifft o freuddwyd iwtopaidd uchelgeisiol sydd wedi cael ei gwireddu, sydd wedi gwella ansawdd bywyd ar draws ein gwlad. Mae’r gwaith celf hwn yn edrych tuag at ddyfodol lle mae naid debyg yn cael ei gwneud ar gyfer iechyd meddwl a lles, newid strwythurol o faint cymdeithasol ac economaidd, lle mai iechyd hirdymor a chymuned yw’r nod, a hapusrwydd yw’r hyn sy’n cael ei fesur.

“O fewn y dirwedd sy’n cael ei datgelu, mae pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu gwthio i’r presennol yn eu bywydau, yn hytrach na thynnu eu sylw oddi wrtho. Mae’r bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn drigolion go iawn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, yn cysylltu â’u hunain ond hefyd â’i gilydd trwy weithredoedd o garedigrwydd, rhoi, rhannu profiadau, ymarfer corff a’r celfyddydau. Mae’r gwaith celf hwn yn gosod gweledigaeth iwtopaidd ar gyfer sut y gallai Cymru edrych a theimlo, wedi’i ysbrydoli gan y gwaith da sydd eisoes yn digwydd.”

Mae Dawns Bywyd (The Dance of Life) yn cael ei arddangos yn Ysbyty Athrofaol Llandochau a bydd llun llai i’w weld yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Leave a Reply