The Arts for Health and Wellbeing Team is working in collaboration with Masters Students at the University of South Wales on a project to benefit patients and staff within Mental Health Services for Older People at University Hospital Llandough.

The students have worked in collaboration with the Arts programme to create a bespoke drama performance entitled ‘Medical Mayhem’ for the patients and staff in University Hospital Llandough to celebrate the NHS@75. The performance includes historical references to the NHS through the years and what it means for patients and staff alike. The performance not only celebrates the NHS but highlights the importance of the arts in promoting health and wellbeing, providing a welcome distraction from the clinical environment and a sense of fun and joy.

Students on the course all have a link to arts in health and understand, acknowledge and celebrate its benefits.

They are thrilled to be able to contribute to the arts programme and the NHS@75 celebrations.

Myfyrwyr PDC yn helpu dathlu’r GIG 75!

Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn gweithio ar y cyd â Myfyrwyr Gradd Meistr ym Mhrifysgol De Cymru ar brosiect er budd cleifion a staff o fewn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae’r myfyrwyr wedi gweithio ar y cyd â rhaglen y Celfyddydau i greu perfformiad arbennig o ddrama ‘Medical Mayhem’ ar gyfer cleifion a staff Ysbyty Athrofaol Llandochau i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75. Mae’r perfformiad yn cynnwys cyfeiriadau hanesyddol at y GIG dros y blynyddoedd a’r hyn y mae’n ei olygu i gleifion a staff fel ei gilydd. Mae’r perfformiad nid yn unig yn dathlu’r GIG ond yn amlygu pwysigrwydd y celfyddydau o ran hybu iechyd a lles, gan gynnig ffordd dda o dynnu sylw oddi wrth yr amgylchedd clinigol a rhannu ymdeimlad o hwyl a llawenydd.

Mae gan fyfyrwyr y cwrs gysylltiad â’r celfyddydau mewn iechyd ac maent yn deall, yn cydnabod ac yn dathlu ei fanteision.

Maent wrth eu bodd eu bod yn gallu cyfrannu at raglen y celfyddydau a dathliadau pen-blwydd y GIG yn 75.

Leave a Reply