Last year the Arts for Health and Wellbeing Team launched an exciting new project for two colleagues within Cardiff and Vale University Health Board to be awarded with a portrait of themselves from renowned artists Harry Holland and Susannah Fiennes.
As we celebrate the NHS’ 75th birthday this week, we’re thrilled to announce that Dr Keith Wilson, Director of South Wales Blood and Marrow Transplant Programme will sit for artist Susannah Fiennes, and Jenny Jones, Staff Nurse based at University Hospital of Wales will sit for artist Harry Holland.
We received many nominations for colleagues all across the Health Board, plus several for Dr Keith Wilson and Jenny Jones. It was clear, from all the feedback, that both uphold the values of the Health Board, and work over and above the call of duty.

Dr Keith Wilson began his career at Cardiff and Vale University Health Board in 1999. When reading through the nominations, his colleagues said, “Dr Wilson is a fantastic consultant who lights up the room with his infectious laugh and wonderful personality. Taking care of his patients is his priority and he will take however much time is needed with them.”
We hope Dr Wilson enjoys having his portrait taken with Susannah Fiennes.

Jenny Jones has been a staff nurse in the Medicine Directorate for over 40 years, and is now due for retirement. Her colleagues said, “Jenny is a wonderful nurse. She is caring and compassionate. Not only does she work tirelessly to care for her patients, she is the go-to person for junior members of the team to seek guidance from or boost spirits after a long tough shift.”
It was noted that Jenny stayed beyond retirement age when the pandemic hit to continue caring for those worst hit by COVID-19.
As Jenny now heads into retirement, we hope this portrait by renowned artist Harry Holland is a fitting farewell gift.
Enwebiad am Bortread
Y llynedd gwnaeth Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles lansio prosiect newydd cyffrous i ddau gydweithiwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gael portread ohonynt eu hunain wedi’i greu gan yr artistiaid enwog Harry Holland a Susannah Fiennes.
Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed yr wythnos hon, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Dr Keith Wilson, Cyfarwyddwr Rhaglen Trawsblannu Gwaed a Mêr De Cymru yn eistedd ar gyfer yr artist Susannah Fiennes, a Jenny Jones, Nyrs Staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru fydd yn eistedd ar gyfer yr artist Harry Holland.
Cawsom lawer o enwebiadau ar gyfer cydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd, ynghyd â sawl un ar gyfer Dr Keith Wilson a Jenny Jones. Roedd yn amlwg, o’r holl adborth, fod y ddau yn cynnal gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, ac yn cyflawni y tu hwnt i’r disgwyl yn eu gwaith.

Dechreuodd Dr Keith Wilson ei yrfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym 1999. Wrth ddarllen drwy’r enwebiadau, dywedodd ei gydweithwyr, “Mae Dr Wilson yn feddyg ymgynghorol gwych sy’n goleuo’r ystafell gyda’i chwerthin heintus a’i bersonoliaeth hyfryd. Gofalu am ei gleifion yw ei flaenoriaeth a bydd yn cymryd faint bynnag o amser sydd ei angen gyda nhw.”
Gobeithio y bydd Dr Wilson yn mwynhau cael ei bortread wedi’i greu gan Susannah Fiennes.

Mae Jenny Jones wedi bod yn nyrs staff yn y Gyfarwyddiaeth Meddygaeth ers dros 40 mlynedd, ac mae bellach ar fin ymddeol. Dywedodd ei chydweithwyr, “Mae Jenny yn nyrs wych. Mae hi’n ofalgar ac yn dosturiol. Nid yn unig y mae’n gweithio’n ddiflino i ofalu am ei chleifion, ond hi yw’r person y mae aelodau iau o’r tîm yn gallu mynd ati i geisio arweiniad neu i gael hwb bach ar ôl shifft hir ac anodd.”
Nodwyd bod Jenny wedi aros y tu hwnt i oedran ymddeol pan darodd y pandemig, er mwyn parhau i ofalu am y rhai y gwnaeth COVID-19 effeithio arnynt fwyaf.
Wrth i Jenny ddechrau ar ei hymddeoliad, gobeithiwn fod y portread hwn gan yr artist enwog Harry Holland yn anrheg ffarwelio teilwng iddi.