



Artist, Nichola Hope, kindly created the four bespoke paintings for the Orthopaedics Waiting Room, University Hospital Llandough.
Nichola was passionate to donate the artworks as a thank you, after her daughter was given a late diagnosis of congenital hip dysplasia at age 2. She was treated with two surgeries under Orthopaedics and followed up until her discharge at age 11.
Nichola chose to draw birds, a nature theme that could help create a calming and inviting space for patients, family members and staff in the waiting room area.
The framing costs for these artworks was raised through generous donations from members of the public and matched by the Orthopaedics Department.
The Arts for Health and Wellbeing team have enjoyed supporting Nichola with this donation and are looking forward to hearing about the impact it will make to the area.
If you are interested in creating or commissioning a piece of art for a hospital area that is special to you, please contact: ArtsinHealth.Cav@wales.nhs.uk



Adar yn hedfan i Orthopedeg




Bu’r artist, Nichola Hope, mor garedig â chreu pedwar paentiad pwrpasol ar gyfer yr Ystafell Aros Orthopedeg yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Roedd Nichola yn frwdfrydig dros roi’r darnau o waith celf fel diolch, ar ôl i’w merch gael diagnosis hwyr o ddysplasia cynhenid y glun yn 2 oed. Cafodd ddwy driniaeth o dan yr adran Orthopedeg, gyda gofal dilynol yn parhau nes iddi gael ei rhyddhau yn 11 oed.
Dewisodd Nichola dynnu llun adar; thema natur a allai helpu i greu gofod tawel a deniadol i gleifion, aelodau o’r teulu a staff yn ardal yr ystafell aros.
Cafodd y costau fframio ar gyfer y darnau hyn o waith celf eu codi drwy roddion hael gan aelodau o’r cyhoedd, gyda chyllid cyfatebol wedi’i roi gan yr Adran Orthopedeg.
Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi mwynhau cefnogi Nichola gyda’r rhodd hon ac yn edrych ymlaen at glywed am yr effaith y bydd yn ei chael ar yr ardal.
Os oes gennych ddiddordeb mewn creu neu gomisiynu darn o waith celf ar gyfer ardal yn yr ysbyty sy’n arbennig i chi, cysylltwch â: ArtsinHealth.Cav@wales.nhs.uk


