As part of the celebrations of the NHS turning 75 this year, the Arts for Health and Wellbeing Programme, with funding from Cardiff & Vale Health Charity’s Staff Lottery, commissioned drawings of the 5 biggest sites of Cardiff and Vale University Health Board.

The two main commissions of University Hospital Llandough and University Hospital Wales were created by artist and Illustration lecturer at University of Wales Trinity St David, Swansea College of Art, Jonathan Williams. Drawn on site and from life, the pieces capture the busy and bustling environments often seen around the two sites, as well as the hospitals’ recognisable architectural features.

The three smaller pieces were made by students of the BA (Hons) Illustration course at University of Wales Trinity St David, Swansea College of Art. The students have captured Barry Hospital, St David’s Hospital and Cardiff Royal Infirmary in their own personal drawing styles, and a variety of mediums.

The five sites house crucial NHS services and are historically significant within Cardiff and the Vale of Glamorgan. Cardiff Royal Infirmary is the oldest site that has served local communities and Cardiff residents since 1883. The Arts for Health and Wellbeing Programme has previously celebrated its history and significance through the Arts Council of Wales funded ‘Cardiff Royal Infirmary; People, Place, Future’ project. You can read more about it on our website http://www.cardiffandvale.art

All five pieces will be exhibited at the University Hospital Llandough Plaza exhibition space until 12th June, and then gifted to the respective sites as a token of appreciation of the NHS and the staff within Cardiff and Vale University Health Board. We thank you all for your hard work caring for people; keeping people well, especially during the COVID-19 pandemic.

For more information about the Arts for Health and Wellbeing Programme, and our exhibition spaces, please visit http://www.cardiffandvale.art and our social media pages @CAVuhbArts and @thehearthgallery on all platforms.

If you require further information about the artworks on show, or if you would like to be included in future exhibitions please contact: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk

Dathlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Fel rhan o ddathliadau’r GIG yn 75 oed eleni, comisiynodd Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, gyda chyllid gan Loteri’r Staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ddarluniau o 5 safle mwyaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Crëwyd y ddau brif gomisiwn o Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru gan yr artist a’r darlithydd Darlunio ym Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Celf Abertawe, Jonathan Williams. Wedi’u darlunio ar y safle ac o fywyd, mae’r darnau’n crisialu’r amgylcheddau prysur a welir yn aml o amgylch y ddau safle, yn ogystal â nodweddion pensaernïol unigryw’r ysbytai.

Gwnaethpwyd y tri darn llai gan fyfyrwyr y cwrs BA (Anrh) Darlunio ym Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Celf Abertawe. Mae’r myfyrwyr wedi darlunio Ysbyty’r Barri, Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn eu harddulliau darlunio personol eu hunain, a gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau.

Mae’r pum safle yn gartref i wasanaethau hanfodol y GIG ac maent yn hanesyddol arwyddocaol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Ysbyty Brenhinol Caerdydd yw’r safle hynaf sydd wedi gwasanaethu cymunedau lleol a thrigolion Caerdydd ers 1883. Mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi dathlu ei hanes a’i harwyddocâd yn y gorffennol drwy’r prosiect ‘Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol’, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein gwefan http://www.cardiffandvale.art

Bydd y pum darn yn cael eu harddangos yn ardal arddangos y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau tan 12 Mehefin, ac yna’n cael eu rhoi i’r safleoedd fel arwydd o werthfawrogiad o’r GIG a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Diolchwn i chi i gyd am eich gwaith caled yn gofalu am bobl; cadw pobl yn iach, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a’n hardaloedd arddangos, ewch i http://www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @CAVuhbArts ac @thehearthgallery ar bob platfform.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk

Leave a Reply