Help us celebrate the NHS’ 75th birthday by showcasing your photography!
We’re looking for uplifting images that capture what the NHS means to you. Whether that’s a building, equipment, or something that symbolises the every day care you provide or receive.
Everyone is welcome to enter, whether you’re a patient, visitor, volunteer or colleague. We’re also accepting submissions from professional and amateur photographers.
Please note no patients should be identifiable in any photos and any staff members must have given consent.
All submissions will be reviewed by the Arts for Health and Wellbeing Team, and the successful applicants will have their photos displayed at the Corridor exhibition space at University Hospital Llandough 6th November 2023 – 29th January 2024.
The Arts Team will award 3 outstanding images with an Amazon Voucher.
How to enter:
· Please send your photo to ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk.
· Title your email ‘NHS75 Photography Challenge’
· In no more than 50 words, please explain your photo, and what it means to you
The deadline for submissions is 5pm 30th June. The successful submissions and competition winners will be announced on 12th July.
If you have any further questions, please contact ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk

Galw am Ffotograffwyr GIG75
Helpwch ni i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed drwy arddangos eich ffotograffiaeth!
Rydym yn chwilio am ddelweddau calonogol sy’n crisialu beth mae’r GIG yn ei olygu i chi. Boed hynny’n adeilad, offer, neu’n rhywbeth sy’n symbol o’r gofal bob dydd rydych yn ei ddarparu neu’n ei dderbyn.
Noder, ni ddylai unrhyw gleifion allu cael eu hadnabod mewn unrhyw luniau a rhaid i unrhyw aelodau o staff fod wedi rhoi caniatâd.
Rydym yn croesawu pawb i gymryd rhan, a byddwn yn derbyn cynigion gan ffotograffwyr proffesiynol ac amatur.
Bydd pob cynnig yn cael ei adolygu gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, a bydd lluniau’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gosod yng ngofod arddangos y Coridor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng 6 Tachwedd 2023 – 29 Ionawr 2024.
Bydd Tîm y Celfyddydau yn rhoi Taleb Amazon fel gwobr i 3 llun eithriadol.
Sut i gymryd rhan:
· Anfonwch eich llun at ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk.
· Rhowch ‘NHS75 Photography Challenge’ fel teitl i’r e-bost
· Mewn dim mwy na 50 gair, esboniwch eich llun, a beth mae’n ei olygu i chi
Y dyddiad cau i gyflwyno eich cynnig yw 5pm 30 Mehefin. Cyhoeddir y cynigion llwyddiannus ac enillwyr y gystadleuaeth ar 12 Gorffennaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk