We are pleased to share that the first sessions of Music for Wellbeing with KIRAN Cymru have taken place with funding from NHS Charities Together.

Participants who are part of Kiran Cymru’s community, many of which are from from Black, Asian and Minority Ethnic communities in Wales, began receiving free tuition in Tabla (an Indian tuned percussion instrument), Djembe, recitation and theatre practices from experienced and professional tutors.

The lessons are offered on Saturday and Sunday and so far, 36 people have taken part including children, young people and adults.

“We are so lucky to have this opportunity. Arts tuition is very costly and not always available for families. My two sons and I take part in music and theatre lessons. It is completely free. I would recommend everyone take part.”

Mrs, Tanya – Participant

If you are interested in taking part, please contact info@kiran.org.uk. Participation is strictly on a prior registration basis.

MUSIC FOR WELLBEING – Sesiynau Cyntaf

Rydym yn falch o rannu bod sesiynau cyntaf Music for Wellbeing gyda KIRAN Cymru wedi cael eu cynnal gyda chyllid gan NHS Charities Together.

Dechreuodd cyfranogwyr sy’n rhan o gymuned Kiran Cymru, gyda nifer ohonynt o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru, dderbyn hyfforddiant am ddim mewn chwarae’r Tabla (offeryn taro Indiaidd), Djembe, llefaru ac ymarferion theatr gan diwtoriaid profiadol a phroffesiynol.

Cynigir y gwersi ar ddydd Sadwrn a dydd Sul a hyd yn hyn, mae 36 o bobl wedi cymryd rhan gan gynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion.

“Rydyn ni mor ffodus i gael y cyfle hwn. Mae gweithgareddau celfyddydol yn gostus iawn ac nid ydynt bob amser ar gael i deuluoedd. Mae fy nau fab a minnau yn cymryd rhan mewn gwersi cerdd a theatr. Mae’n rhad ac am ddim. Byddwn yn argymell i bawb gymryd rhan.”

Mrs, Tanya – Cyfranogwr

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â info@kiran.org.uk. Mae’n rhaid cofrestru ymlaen llaw i gymryd rhan.

Leave a Reply