As part of the pan-Wales Arts and Minds Initiative funded by Baring Foundation and the Arts Council of Wales, the Arts for Health and Wellbeing Programme were delighted to commission Four in Four to work with The Recovery and Wellbeing College.

Based on their wealth of experience of creating and delivering Arts & Health projects in Wales, the UK and internationally, Tamsin Griffiths and Paul Whittaker have researched and developed a comprehensive set of recommendations that could be used as a learning guide for artists wishing to work within arts in health and wellbeing, and to protect the mental health of all practitioners, as part of the Year 1 Funding, 2021-2022

The learning will also build and support the arts offer at the Recovery & Wellbeing College and contribute to a sustainable public-facing Arts & Mental Health programme in Wales.

The Support Guide can be accessed here:

Tamsin and Paul also hosted open, interactive and conversational workshops around working in health care and the intentional use of lived experience as a tool for promoting Recovery and building connection within your practice.

An evaluation of the workshops can be found here:

About Four in Four

Tamsin Griffiths and Paul Whittaker are cross disciplinary artists that create participatory arts projects that blur the boundaries of art-forms and challenge perceptions about physical and mental health. With lifelong ‘Lived Experience’ of Mental Illness, they provide invaluable insight into the Mental Health Challenges people face in a Healthcare setting. Working in collaboration, they merge their expertise in visual arts, theatre, sound, creative writing, film, dance and physical performance to suit form and content.

Canllaw Cymorth a Gweithdai Celfyddydau ac Iechyd wedi’u Creu gyda Four in Four

Fel rhan o Fenter Celfyddyd a Chrebwyll Cymru gyfan a ariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru, roedd yn bleser gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gomisiynu Four in Four i weithio gyda’r Coleg Adfer a Lles.

Yn seiliedig ar eu profiad helaeth o greu a chyflawni prosiectau Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, mae Tamsin Griffiths a Paul Whittaker wedi gwneud eu hymchwil a datblygu set gynhwysfawr o argymhellion y gellid eu defnyddio fel canllaw dysgu i artistiaid sy’n dymuno gweithio ym maes y celfyddydau mewn iechyd a lles, ac i ddiogelu iechyd meddwl pob ymarferydd, fel rhan o Gyllid Blwyddyn 1, 2021-2022.

Bydd yr hyn a ddysgir hyn hefyd yn cefnogi ac yn ychwanegu at yr hyn a gynigir o ran y celfyddydau yn y Coleg Adfer a Lles ac yn cyfrannu at raglen Celfyddydau ac Iechyd Meddwl cynaliadwy i’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae’r Canllaw Cymorth ar gael yma:

Yn ogystal, cynhaliodd Tamsin a Paul weithdai agored, rhyngweithiol a sgyrsiol ynghylch gweithio ym maes gofal iechyd a’r

defnydd bwriadol o brofiadau personol fel arf ar gyfer hyrwyddo Adferiad a meithrin cysylltiad o fewn eich ymarfer.

Mae gwerthusiad o’r gweithdai i’w weld yma:

Four in Four

Mae Tamsin Griffiths a Paul Whittaker yn artistiaid trawsddisgyblaethol sy’n creu prosiectau celfyddydol cyfranogol sy’n cymylu ffiniau ffurfiau celf ac yn herio canfyddiadau am iechyd corfforol a meddyliol. Gyda ‘Phrofiad Personol’ gydol oes o Salwch Meddwl, maent yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i’r Heriau Iechyd Meddwl y mae pobl yn eu hwynebu mewn lleoliad Gofal Iechyd. Gan weithio ar y cyd, maent yn cyfuno eu harbenigedd yn y celfyddydau gweledol, theatr, sain, ysgrifennu creadigol, ffilm, dawns a pherfformiad corfforol i weddu i ffurf a chynnwys.

Leave a Reply