On Monday 6th February, we were delighted to welcome the BA (Hons) Creative and Therapeutic Arts students from the University of South Wales (USW) to work with the staff at Mental Health Services for Older People (MHSOP), University Hospital Llandough, to deliver creative arts sessions for dementia patients. This is part of a collaborative project between USW, the Arts for Health and Wellbeing Team, Cardiff & Vale Health Charity and CAVUHB.

After receiving further training from the Dementia Learning and Development Team, four groups of students each decorated a large box and filled it with materials and instructions to create pieces of art with the general theme of celebration, as the NHS will be turning 75 this year. The activities explored a variety of engaging techniques, accessible to those with limited mobility.

On the day, the activity boxes were delivered to four wards by the students, who then spent the day collaborating with participants to make vibrant pieces of art. Refocussing Nurses also joined each group to take part in the sessions, and to ensure everything ran smoothly. Patients were engaged with the various processes, and connected with the students through sharing life stories. The flowing conversations often stemmed from the materials and techniques included in the activity boxes.

The remaining materials and instructions were gifted to the wards for future use, and the next step for the students is to reflect on the sessions, and to make artworks in response to the pieces created by the patients. The project will culminate in an exhibition at the Hearth Gallery 9th May – 19th June 2023, and will display artwork made by the students as well as some of the pieces created by the patients.

We would like to thank Heloise Godfrey-Talbot, lecturer on the Creative and Therapeutic Arts course, her talented students, and the wonderful staff at MHSOP. We look forward to seeing how the project develops in the lead up to the exhibition.

The Hearth Gallery has been supporting Dementia Awareness since 2017, and we are delighted to host this exhibition during Dementia Action/Awareness Week 2023 (16th – 22nd May 2023).

Myfyrwyr yn Ymweld â Wardiau Dementia MHSOP

Ddydd Llun 6 Chwefror, roedd yn bleser gennym groesawu myfyrwyr BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig o Brifysgol De Cymru (USW) i weithio gyda staff Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP), Ysbyty Athrofaol Llandochau, i gyflwyno sesiynau celfyddydau creadigol i gleifion â dementia. Mae hyn yn rhan o brosiect cydweithredol rhwng USW, Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a BIPCAF.

Ar ôl derbyn hyfforddiant pellach gan y Tîm Dysgu a Datblygu Dementia, fe wnaeth pedwar grŵp o fyfyrwyr addurno bocs mawr a’i lenwi â deunyddiau a chyfarwyddiadau i greu darnau o gelf gyda thema gyffredinol dathlu, gan y bydd y GIG yn troi’n 75 eleni. Roedd y gweithgareddau’n archwilio amrywiaeth o dechnegau difyr, y gallai’r rhai sy’n ei chael yn anodd symud eu gwneud.

Ar y diwrnod, dosbarthwyd y blychau gweithgaredd i bedair ward gan y myfyrwyr, a dreuliodd y diwrnod yn cydweithio â chyfranogwyr i wneud darnau llachar o gelf. Ymunodd Nyrsys Newid Pwyslais â phob grŵp hefyd i gymryd rhan yn y sesiynau, ac i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddi’n esmwyth. Gwnaeth cleifion gymryd rhan lawn yn y prosesau amrywiol, a chysylltu â’r myfyrwyr trwy rannu straeon bywyd. Roedd y sgyrsiau a oedd yn llifo yn aml yn deillio o’r deunyddiau a’r technegau a gynhwyswyd yn y blychau gweithgaredd.

Rhoddwyd gweddill y deunyddiau a chyfarwyddiadau i’r wardiau i’w defnyddio yn y dyfodol, a’r cam nesaf i’r myfyrwyr yw myfyrio ar y sesiynau, a gwneud darnau o waith celf mewn ymateb i’r darnau a grëwyd gan y cleifion. Daw’r prosiect i ben gydag arddangosfa yn Oriel yr Aelwyd rhwng 9 Mai a 19 Mehefin 2023, a bydd yn arddangos gwaith celf a wnaed gan y myfyrwyr yn ogystal â rhai o’r darnau a grëwyd gan y cleifion.

Hoffem ddiolch i Heloise Godfrey-Talbot, darlithydd ar y cwrs Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig, ei myfyrwyr dawnus, a staff gwych MHSOP. Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y prosiect yn datblygu yn ystod y cyfnod yn arwain at yr arddangosfa.

Mae Oriel yr Aelwyd wedi bod yn cefnogi Ymwybyddiaeth o Ddementia ers 2017, ac rydym yn falch iawn o gynnal yr arddangosfa hon yn ystod Wythnos Gweithredu/Ymwybyddiaeth o Ddementia 2023 (16 – 22 Mai 2023).

Leave a Reply