We are delighted to present the new Barry Hospital exhibition by the participants of the Rhiwbina Sketchwalk. The group was started by Dan Peterson, a long-standing supporter of the Arts for Health and Wellbeing Programme, and the owner of the Peterson Art Supplies shop in Rhiwbina, Cardiff.

Welcoming all members of the community, the Rhiwbina Sketchwalk is an opportunity to cultivate drawing skills, and to meet other artists whilst enjoying the outdoors. The exhibition displays the group’s wide range of skillsets through drawings made on location in Rhiwbina.

The Rhiwbina Sketchwalk was established at the beginning of 2021 a short while after Peterson Art Supplies opened in the village. We were meeting artists everyday but people were also popping in for a chat about art saying things like “I used to do art, when I was in school” or “I’d love to give that a go but I wouldn’t know where to start”. I would encourage them to have a go by telling them how good it was for their mental health. It wasn’t long before I realised I needed to give them a starting point. All art starts with drawing.

Starting the Sketchwalk meant that people interested in just having a go could mix with accomplished artists and they could learn from each other. More importantly they could enjoy the experience together in a group which would help them to do something they would find more difficult alone. We have participants from all age groups and all parts of the community.

Sketchbooks, pens and pencils in hand we don’t walk far, keeping it within the Rhiwbina area. If there is someone with mobility issues we keep the distance even shorter. We stop to draw at one or two locations and it lasts for around two hours. Looking at each other’s work over coffee at Snails Deli afterwards is a big part of it and can sometimes go on as long as the walk itself.

-Dan Peterson

Instagram: @peterson_art_supplies

The Rhwbina Sketchwalk Exhibition will run until 16th May 2023.

For more information about the Arts for Health and Wellbeing Programme, and our exhibition spaces, please visit www.cardiffandvale.art and our social media pages @CAVuhbArts and @thehearthgallery on all platforms.

If you require further information, would like to purchase any of the artworks on show, or would like to be included in future exhibitions please contact: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk

Arddangosfa Rhiwbina Sketchwalk

Mae’n bleser gennym gyflwyno arddangosfa newydd Ysbyty’r Barri gan gyfranogwyr Rhiwbina Sketchwalk. Dechreuwyd y grŵp gan Dan Peterson, cefnogwr hirsefydlog Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, a pherchennog siop Peterson Art Supplies yn Rhiwbeina, Caerdydd.

Gan groesawu holl aelodau’r gymuned, mae Rhiwbina Sketchwalk yn gyfle i feithrin sgiliau darlunio, ac i gwrdd ag artistiaid eraill wrth fwynhau’r awyr agored. Mae’r arddangosfa’n amlygu ystod eang o sgiliau’r grŵp trwy ddarluniau a wnaed ar leoliad yn Rhiwbeina.

Sefydlwyd Rhiwbina Sketchwalk ar ddechrau 2021 ychydig ar ôl i Peterson Art Supplies agor yn y pentref. Roeddem yn cwrdd ag artistiaid bob dydd ond roedd pobl hefyd yn picio i mewn am sgwrs am gelf gan ddweud pethau fel “Roeddwn i’n arfer gwneud celf, pan oeddwn i yn yr ysgol” neu “Byddwn wrth fy modd yn rhoi cynnig ar hynny ond fyddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau”. Byddwn yn eu hannog i roi cynnig arni drwy ddweud wrthynt pa mor dda oedd ar gyfer eu hiechyd meddwl. Doedd hi ddim yn hir cyn i mi sylweddoli bod angen i mi roi man cychwyn iddyn nhw. Mae pob math o gelf yn dechrau gyda darlunio.

Roedd dechrau’r Sketchwalk yn golygu y gallai pobl sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig arni gymysgu ag artistiaid medrus a gallent ddysgu oddi wrth ei gilydd. Yn bwysicach fyth, gallent fwynhau’r profiad gyda’i gilydd mewn grŵp a fyddai’n eu helpu i wneud rhywbeth y byddent yn ei gael yn anoddach ar eu pennau eu hunain. Mae gennym gyfranogwyr o bob grŵp oedran a phob rhan o’r gymuned.

Gyda’n llyfrau braslunio, beiros a phensiliau wrth law, nid ydym yn cerdded yn bell, gan gadw o fewn ardal Rhiwbeina. Os oes rhywun â phroblemau symudedd rydym yn cadw’r pellter hyd yn oed yn fyrrach. Rydyn ni’n stopio i dynnu llun mewn un neu ddau leoliad ac mae’n para oddeutu dwy awr. Mae edrych ar waith ein gilydd dros goffi yn Snails Deli wedyn yn rhan fawr ohono, ac weithiau gall hynny bara cyhyd â’r daith ei hun.

-Dan Peterson

Instagram: @peterson_art_supplies

Bydd Arddangosfa Rhiwbina Sketchwalk yn para tan 16 Mai 2023.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a’n hardaloedd arddangos, ewch i www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @CAVuhbArts ac @thehearthgallery ar bob platfform.

I gael rhagor o wybodaeth, i brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosfeydd y dyfodol, cysylltwch â: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk

Leave a Reply