
A Creative Journey for Mental Wellbeing.
Finding Me is about exploring our emotions by expressing through photography, and how this process can provide a positive change on our mental health.
Portrait Photographer Lisa Marie Mansfield captures her own mental health journey by photographing a significant personal object to express periods of emotional challenges. She is studying an MA in Arts Practice, Arts, Health and Wellbeing and aims to raise awareness in mental health through her photography and pursue this as a career to encourage others to express creatively.


“Photography helps me to express my emotions without having to do it verbally. A few months ago, I experienced trauma in my life which resulted in my mental health declining. To help myself through this journey I decided to photograph an object personal to me, my teddy. I have used self-portraiture but through an object of significance. This photographic journey is about how I found myself by creating a deeper meaning behind these images, and how each image demonstrates a certain emotion from negatives to reaching the positives in finding me.” – Lisa Mansfield
Website: https://lisamariephotographyuk.wordpress.com/

The Finding Me exhibitionruns until 10th April 2023.
For more information about the Arts for Health and Wellbeing programme, please visit http://www.cardiffandvale.art and our social media pages on Facebook and Twitter @CAVuhbArts and Instagram @thehearthgallery
If you require further information or to purchase any of the artworks on show, or would like to be included in future exhibitions please contact: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk
Finding Me – Arddangosfa gan Lisa Mansfield

Taith Greadigol ar gyfer Lles Meddyliol.
Mae “Finding Me” yn ymwneud ag archwilio ein hemosiynau trwy fynegi trwy ffotograffiaeth, a sut y gall y broses hon gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl.
Mae’r Ffotograffydd Portread Lisa Marie Mansfield yn cyfleu ei thaith iechyd meddwl ei hun trwy dynnu llun gwrthrych personol arwyddocaol i fynegi cyfnodau o heriau emosiynol. Mae’n astudio MA mewn Ymarfer Celf, y Celfyddydau, Iechyd a Lles a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl trwy ei ffotograffiaeth a dilyn hyn fel gyrfa i annog eraill i fynegi’n greadigol.


“Mae ffotograffiaeth yn fy helpu i fynegi fy emosiynau heb orfod gwneud hynny ar lafar. Ychydig fisoedd yn ôl, cefais drawma yn fy mywyd a wnaeth achosi i’m hiechyd meddwl ddirywio. Er mwyn helpu fy hun trwy’r daith hon, penderfynais dynnu llun gwrthrych sy’n bersonol i mi, fy nhedi. Rwyf wedi defnyddio hunanbortread ond trwy wrthrych o bwys. Mae’r daith ffotograffig hon yn ymwneud â sut y gwnes i ddarganfod fy hun drwy greu ystyr dyfnach y tu ôl i’r delweddau hyn, a sut mae pob delwedd yn dangos emosiwn penodol o’r negyddol i’r cadarnhaol wrth i mi ddarganfod fy hun.” – Lisa Mansfield
Gwefan: https://lisamariephotographyuk.wordpress.com/

Mae’r arddangosfa Finding Me yn rhedeg tan 10 Ebrill 2023.
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i http://www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter @CAVuhbArts ac Instagram @thehearthgallery
I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: ArtsinHealth.cav@wales.nhs.uk