The Cystic Fibrosis Transition Trail was created to support patients aged 14+ who are transitioning from paediatric services to the All Wales Adult Cystic Fibrosis Centre at University Hospital Llandough.
The CF Transition Trail is designed to be played on a patient’s mobile phone or tablet and guides them through the hospital site as well as introducing different locations and meeting staff who will support them at the adult centre. The trail can be played during a patient’s introductory visit to the site with the Senior Youth Worker in Cystic Fibrosis, with options to play at home for those who are unable to attend in person.


With the oversight of Arts Fundraising Support Officer, Bex Betton, from the Arts for Health and Wellbeing Programme at Cardiff & Vale Health Charity, the trail was developed with Senior Youth Worker in Cystic Fibrosis, Bethan Watkins, and Cardiff University Computer Science student Stella Bejide, supported by her supervisor Dr Daniel J. Finnegan.
“I have thoroughly enjoyed working with Llandough hospital and the Cystic Fibrosis team in creating this interactive transition trail. I wanted to work on the project to help transform the lives of children struggling with the move from children to adult services and to make them feel more confident when they do arrive at Llandough hospital. I am proud of the transition trail and I hope it helps many children and young adults in the future.“
-Stella Bejide, Computer Science Student
“This project has been a great opportunity to create a digital resource for young people that will help them feel more confident about transitioning to the adult service whilst having some fun. The guidance and expertise of the Arts for Health and Wellbeing team was essential!”
– Bethan Watkins, Senior Youth Worker in Cystic Fibrosis
“I always love collaborating with the Arts for Health and Wellbeing team: their work makes a huge impact on the local community and working with them is a great way to demonstrate the benefits of computing and technology on people and society.”
– Dr Daniel J. Finnegan, Senior Lecturer in the School of Computer Science and Informatics at Cardiff University.
The CF Transition Trail was developed as part of the Arts for Health and Wellbeing Team’s CF Voices Project, funded through the HARP Nourish Programme – Health, Arts, Research, People, an innovation and research partnership between the Arts Council of Wales and Y Lab (Cardiff University & Nesta).
Llwybr Pontio Ffeibrosis Systig
Crëwyd y Llwybr Pontio Ffeibrosis Systig i gefnogi cleifion 14+ oed sy’n trosglwyddo o wasanaethau pediatrig i Ganolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Mae’r Llwybr Pontio Ffeibrosis Systig wedi’i gynllunio i’w chwarae ar ffôn symudol neu lechen claf ac mae’n eu harwain trwy safle’r ysbyty yn ogystal â chyflwyno gwahanol leoliadau a chwrdd â staff a fydd yn eu cefnogi yn y ganolfan i oedolion. Gellir chwarae’r llwybr yn ystod ymweliad rhagarweiniol claf â’r safle gyda’r Uwch Weithiwr Ieuenctid mewn Ffeibrosis Systig, gydag opsiynau i’w chwarae gartref i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’n bersonol.


Gyda goruchwyliaeth Swyddog Cymorth Codi Arian y Celfyddydau, Bex Betton, o Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, datblygwyd y llwybr gydag Uwch Weithiwr Ieuenctid mewn Ffeibrosis Systig, Bethan Watkins, a Stella Bejide, myfyrwraig Cyfrifiadureg o Brifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth ei goruchwyliwr Dr Daniel J. Finnegan.
“Rwyf wedi mwynhau gweithio gydag ysbyty Llandochau a’r tîm Ffeibrosis Systig i greu’r llwybr pontio rhyngweithiol hwn yn fawr. Roeddwn i eisiau gweithio ar y prosiect i helpu i drawsnewid bywydau plant sy’n cael trafferth symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion a gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus pan fyddant yn cyrraedd ysbyty Llandochau. Rwy’n falch o’r llwybr pontio a gobeithio y bydd yn helpu llawer o blant ac oedolion ifanc yn y dyfodol.”
-Stella Bejide, Myfyrwraig Cyfrifiadureg
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i greu adnodd digidol ar gyfer pobl ifanc a fydd yn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus ynghylch trosglwyddo i’r gwasanaeth oedolion a chael ychydig o hwyl ar yr un pryd. Roedd arweiniad ac arbenigedd tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn hanfodol!”
– Bethan Watkins, Uwch Weithiwr Ieuenctid mewn Ffeibrosis Systig
“Rwyf bob amser wrth fy modd yn cydweithio â thîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles: mae eu gwaith yn cael effaith enfawr ar y gymuned leol ac mae gweithio gyda nhw yn ffordd wych o ddangos manteision cyfrifiadura a thechnoleg i bobl a chymdeithas.”
– Dr Daniel J. Finnegan, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.
Datblygwyd y Llwybr Pontio Ffeibrosis Systig fel rhan o Brosiect CF Voices Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, a ariennir gan Raglen Borthi HARP – Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl, sef partneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab ( Prifysgol Caerdydd a Nesta).