The Arts for Health and Wellbeing Team, Cardiff & Vale Health Charity are delighted to announce funding from NHS Charities Together in support of community based creative arts opportunities through Rubicon Dance and Mental Health Matters.


We have built successful, long standing partnerships with both organisations who work with our inpatients and staff members at a number of our hospital sites, improving experiences and offering enjoyable activities which improve wellbeing in so many ways.
Through our arts initiative, Bloom, we are excited to now develop opportunities within our Cardiff and Vale communities to continue this support for people at home.
“The work Rubicon do couldn’t be more valuable; throughout our collaboration with them, we have seen first-hand the profound effect they’ve have had on patients at St. David’s Hospital. It’s not just the patients that benefit either; collaborating with Rubicon has improved the practise of our staff who have learned new skills, techniques and approaches from Rubicon.”
-Gabriel Mandal, Mental Health Matters,
We will be holding regular Movement and Music sessions within our communities from February 2023 aimed at building confidence, bringing people together and improving wellbeing. There is a long list of health and wellbeing benefits!
Please contact us if you would like further information or to express your interest in this project, we would be delighted to meet you: artsinhealth.cav@wales.nhs.uk
BLOOM – Sefydlu
Mae’n bleser gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi cyllid gan NHS Charities Together i gefnogi cyfleoedd yn y gymuned ym maes y celfyddydau creadigol drwy Rubicon Dance a Mental Health Matters.


Rydym wedi adeiladu partneriaethau llwyddiannus, hirsefydlog gyda’r ddau sefydliad sy’n gweithio gyda’n cleifion mewnol ac aelodau staff yn sawl un o’n safleoedd ysbytai, gan wella profiadau a chynnig gweithgareddau difyr sy’n gwella lles mewn cymaint o ffyrdd.
Drwy ein menter gelfyddydol, Bloom, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu cyfleoedd o fewn ein cymunedau yng Nghaerdydd a’r Fro i barhau â’r cymorth hwn i bobl gartref.
“Ni allai gwaith Rubicon fod yn fwy gwerthfawr; yn ystod ein hamser yn cydweithio, rydym wedi gweld dros ein hunain yr effaith fawr y mae’r gwaith wedi’i gael ar gleifion yn Ysbyty Dewi Sant. Nid y cleifion yn unig sy’n elwa chwaith; mae cydweithio gyda Rubicon wedi gwella ymarfer ein staff sydd wedi dysgu sgiliau, technegau a dulliau newydd gan Rubicon.”
-Gabriel Mandal, Mental Health Matters
Byddwn yn cynnal sesiynau Symud a Cherddoriaeth rheolaidd yn ein cymunedau o fis Chwefror 2023 gyda’r nod o fagu hyder, dod â phobl ynghyd a gwella lles. Ceir rhestr hir o fanteision o ran iechyd a lles!
Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu i fynegi eich diddordeb yn y prosiect hwn, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi: artsinhealth.cav@wales.nhs.uk
