The Arts for Health and Wellbeing Team and Cardiff & Vale Health Charity are delighted to receive a kind donation of a painting from Terry Setch RA, RWA.

Terry Setch RA, RWA is a celebrated British artist and a Royal Academician. His work explores the tensions between society and the natural world, and has been using the pollution of beaches as his major subject since 1970s, long before it had entered the public’s consciousness. Painting in encaustic, Terry Setch RA, RWA uses hot wax mixed with pigment to create texture, and to embed debris found on the beach within his work.
Based in Penarth since 1969, Terry has been continuously inspired by this part of the Welsh coastline, as it reminded him of the Thames and his memories of the river whilst he was growing up. He uses the flotsam and jetsam washed up from the Severn Estuary, often creating artwork plein air by using wax and acrylic to secure debris to the canvas or board, and sometimes even dipping the pieces in the water.
“It is my pleasure to donate this artwork to Cardiff & Vale Health Charity’s Arts Programme. I have spent my long career understanding the effects of industrialisation on our beautiful beaches, encapsulating the devastation in my art. With a new home for this piece, I’m hoping to evoke thoughtfulness and mindfulnness in those it attracts. I have a lot of admiration for the NHS, and cannot think of a better home for Seamist than University Hospital Llandough. I hope patients, staff, visitors, and the community enjoy observing, and possibly enticing the inner artist within.” – Terry Setch RA, RWA
To find out more about Terry’s artwork, please visit: https://www.terrysetch.co.uk/
If you’re interested in donating an artwork, or would like to inquire about future exhibitions, please contact magda.lackowska@wales.nhs.uk
Gwaith celf wedi’i roi gan Terry Setch RA, RWA
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o dderbyn rhodd garedig o baentiad gan Terry Setch RA, RWA.

Mae Terry Setch RA, RWA yn artist enwog o Brydain ac yn Aelod o’r Academi Frenhinol. Mae ei waith yn archwilio’r tensiynau rhwng cymdeithas a’r byd naturiol, ac mae wedi bod yn defnyddio llygredd traethau fel ei brif destun ers y 1970au, ymhell cyn iddo ddod i ymwybyddiaeth y cyhoedd. Gan ddefnyddio dull paentio llosgliw, mae Terry Setch RA, RWA yn defnyddio cwyr poeth wedi’i gymysgu â lliw i greu gwead, ac i ymgorffori malurion a ddarganfuwyd ar y traeth yn ei waith.
Mae Terry, sydd wedi byw ym Mhenarth ers 1969, wedi’i ysbrydoli’n barhaus gan y rhan hon o arfordir Cymru, gan ei fod yn ei atgoffa o’r Tafwys a’i atgofion o’r afon yn ystod ei fagwraeth. Mae’n defnyddio’r broc môr a olchwyd i fyny o Aber Afon Hafren, yn aml yn creu gwaith celf en plein air trwy ddefnyddio cwyr ac acrylig i ludo’r malurion i’r cynfas neu fwrdd, ac weithiau hyd yn oed yn trochi’r darnau yn y dŵr.
“Mae’n bleser gen i roi’r gwaith celf hwn i Raglen y Celfyddydau, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Rwyf wedi treulio fy ngyrfa hir yn deall effeithiau diwydiannu ar ein traethau hardd, gan grynhoi’r dinistr yn fy nghelf. Gyda chartref newydd i’r darn hwn, rwy’n gobeithio ysgogi meddylgarwch ac ymwybyddiaeth ofalgar yn y rhai y mae’n eu denu. Mae gen i lawer o edmygedd tuag at y GIG, ac yn methu meddwl am gartref gwell i ‘Sea Mist’ nag Ysbyty Athrofaol Llandochau. Rwy’n gobeithio y bydd cleifion, staff, ymwelwyr, a’r gymuned yn mwynhau arsylwi, ac o bosib yn hudo’r artist mewnol ynddynt.” – Terry Setch RA, RWA
I ddarganfod mwy am waith celf Terry, ewch i: https://www.terrysetch.co.uk/
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi gwaith celf, neu os hoffech holi am arddangosfeydd yn y dyfodol, cysylltwch â magda.lackowska@wales.nhs.uk