We are delighted to present this year’s resident jewellery maker and designer, Sam Burns, a long-standing supporter of the Arts for Health and Wellbeing Programme. His beautiful hand-crafted jewellery range is available to purchase through the Hearth Gallery, with 25% of all sales kindly donated to the Arts Programme.

“Hi I’m Sam, I am the founder of Art and Jewellery by Sam Burns. I’m a self-taught artist and silversmith based in Caerphilly, who specialises in sterling silver wire wrapped semi precious and precious stones.

 I use only 925 sterling silver wire and the finest AAA quality stones, which offer superb colour and clarity so the stones are perfect examples of their varieties. I pride myself in using ethically sourced stones and recycled silver, trying to keep my impact on the planet low and my support of fair ethical trade high.

Ever since childhood I’ve been a bit of a magpie and can’t help picking up interesting any beautiful objects I find. I love the outdoors especially costal areas, I find so many pieces while out and about. So I decided to learn how to make objects like sea glass into jewellery that could be worn. I started out wrapping natural unpolished stones and progressed to cabochons of all shapes and sizes like what is on show in this collection.

I am a natural born scientist with a twist. I am fascinated by the different elements and healing powers of crystals, I’m really enjoying learning about how each of them provides different healing energies and properties to the wearer. The reason I use wire is so it cradles the stones and allows it to come into contact with the wearers skin, transferring these powers to them. After all the stone is the star of the show but made into a star you can wear with pride.

I started making the jewellery just over a year ago after spending 4 years previously focusing on painting. There was something drawing me to the crystals and from creating a few designs,  they spoke to me and  my followers and has been my main focus since.

Thank you for stopping to look at my jewellery, I hope you get the same pleasure and connection as I have creating these pieces. If one speaks to you there is probably a good reason. So take your time, enjoy what you see and enjoy the experience.

For bespoke designs or commissions, you can find me on Facebook under Art and Jewellery by Sam Burns.

Thank you.”

  • Sam Burns

To purchase a piece of jewellery, please contact Magda, the Exhibitions Co-Ordinator on magda.lackowska@wales.nhs.uk or find her in the Hearth Gallery Mondays – Wednesdays, 8am – 4pm.

Gemwaith gan Sam Burns

Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r gwneuthurwr a’r dylunydd gemwaith preswyl eleni, Sam Burns, sydd wedi cefnogi Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ers amser maith. Mae ei gasgliad gemwaith hardd sydd wedi’i greu â llaw ar gael i’w brynu yn Oriel yr Aelwyd, a chaiff 25% o’r holl werthiant ei roi yn garedig i Raglen y Celfyddydau.

“Helo Sam ydw i, a fi yw sylfaenydd Art and Jewellery by Sam Burns. Rwy’n artist a gof arian hunan-ddysgedig sy’n gweithio yng Nghaerffili, ac rwy’n arbenigo mewn defnyddio gwifrau arian sterling wedi’u lapio o gwmpas cerrig lled werthfawr a gwerthfawr.

 Rwyf ond yn defnyddio gwifren arian sterling 925 a’r cerrig ansawdd AAA gorau, sy’n cynnig lliw ac eglurder gwych felly mae’r cerrig yn enghreifftiau perffaith o’u mathau. Rwy’n ymfalchïo mewn defnyddio cerrig o ffynonellau moesegol ac arian wedi’i ailgylchu, gan geisio cadw fy effaith ar y blaned yn isel a’m cefnogaeth i fasnach foesegol deg yn uchel.

Ers fy mhlentyndod dwi wedi bod yn dipyn o bioden a dwi bob amser yn mwynhau casglu unrhyw wrthrychau hardd diddorol dwi’n dod o hyd iddynt. Dwi wrth fy modd gyda’r awyr agored yn enwedig ardaloedd arfordirol, a dwi’n canfod cymaint o ddarnau pan fyddaf allan yn mynd am dro. Felly penderfynais ddysgu sut i wneud gwrthrychau fel gwydr y môr yn emwaith y gellid ei wisgo. Dechreuais lapio cerrig naturiol heb eu gloywi a symud ymlaen i gabosionau o bob lliw a llun fel yr hyn sydd i’w weld yn y casgliad hwn.

Rwy’n wyddonydd naturiol sydd ychydig yn wahanol i’r arfer. Rwy’n cael fy swyno gan wahanol elfennau a phwerau iacháu crisialau, rwy’n mwynhau dysgu am sut mae pob un ohonynt yn darparu egni ac eiddo iacháu gwahanol i’r gwisgwr. Y rheswm dwi’n defnyddio gwifren yw’r ffaith ei bod yn gallu dal y cerrig yn ofalus a chaniatáu iddynt ddod i gysylltiad â chroen y gwisgwyr, gan drosglwyddo’r pwerau hyn iddyn nhw. Wedi’r cyfan, y garreg yw seren y sioe ond caiff ei gwneud yn seren y gallwch ei gwisgo gyda balchder.

Dechreuais wneud y gemwaith ychydig dros flwyddyn yn ôl ar ôl treulio 4 mlynedd cyn hynny yn canolbwyntio ar baentio. Roedd rhywbeth yn fy nenu at y crisialau ac o greu ambell ddyluniad, roedden nhw’n siarad â mi a’m dilynwyr ac maent wedi bod yn brif ffocws i mi ers hynny.

Diolch am stopio i edrych ar fy ngemwaith, gobeithio y cewch chi’r un pleser a chyswllt ag yr wyf i’n ei brofi yn creu’r darnau yma. Os bydd un ohonynt yn siarad â chi mae’n debyg bod rheswm da dros hynny. Felly cymerwch eich amser, mwynhewch beth rydych chi’n ei weld a mwynhewch y profiad.

Ar gyfer dyluniadau neu gomisiynau pwrpasol, gallwch ddod o hyd i mi ar Facebook o dan Art and Jewellery by Sam Burns.

Diolch yn fawr.”

  • Sam Burns

I brynu darn o emwaith, cysylltwch â Magda, Cydlynydd yr Arddangosfeydd ar magda.lackowska@wales.nhs.uk neu dewch o hyd iddi yn Oriel yr Aelwyd o ddydd Llun i ddydd Mercher, rhwng 8am a 4pm.

Leave a Reply