A Christmas Wreath Making Workshop was organised by Cardiff & Vale Health Charity to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme on Wednesday 23rd November 2022.
The event took place at Woodland House and welcomed nearly 50 participants across two sittings who enjoyed hot drinks and cakes kindly donated by Memory Lane Cakes.


The workshop was ran by Natalie and Amanda from Hearts and Flowers / About Flowers who guided participants through creating their own Christmas Wreath. The wreaths all looked amazing and we are looking forward to seeing them up for Christmas!
A Christmas Raffle was also drawn at the event and winners left with prizes generously donated by Sherman Theatre, St David’s Hall, Mack Events, and Kate Broadhurst. One lucky staff member also won a one year free membership for one person at Everlast Gyms kindly donated by http://www.StaffBenefits.co.uk
The event raised over £1000 for the Arts for Health and Wellbeing Programme and will be a significant contribution to continuing and developing the programme to offer creative environments, workshops and opportunities to patients, staff and visitors at Cardiff and Vale University Health Board.


We would like to say a big thank you to Hearts and Flowers / About Flowers, the local businesses who donated to the event and everyone who attended the workshop, we really appreciate your support.
If you are interested in attending a future event held by the Arts for Health and Wellbeing Programme, please keep an eye on Cardiff & Vale Health Charity’s events page: https://healthcharity.wales/events/
Digwyddiad Codi Arian Gweithdy Creu Torch Nadolig
Trefnwyd Gweithdy Creu Torch Nadolig gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ddydd Mercher 23 Tachwedd 2022.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Coetir a chroesawyd bron i 50 o gyfranogwyr yn ystod dwy sesiwn, a gwnaethant fwynhau diodydd poeth a chacennau a roddwyd yn garedig gan Memory Lane Cakes.


Cynhaliwyd y gweithdy gan Natalie ac Amanda o Hearts and Flowers / About Flowers a wnaeth roi arweiniad i’r cyfranogwyr ar sut i greu eu Torch Nadolig eu hunain. Roedd y torchau i gyd yn edrych yn anhygoel ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu harddangos ar gyfer y Nadolig!
Tynnwyd Raffl Nadolig yn y digwyddiad hefyd a chafodd yr enillwyr wobrau a roddwyd yn hael gan Theatr y Sherman, Neuadd Dewi Sant, Mack Events, a Kate Broadhurst. Enillodd un aelod o staff lwcus hefyd aelodaeth am ddim am flwyddyn i un person yng Nghampfeydd Everlasta roddwyd yn garedig gan http://www.StaffBenefits.co.uk
Cododd y digwyddiad dros £1000 ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a bydd yn cyfrannu’n sylweddol at barhau i gynnal a datblygu’r rhaglen er mwyn cynnig amgylcheddau creadigol, gweithdai a chyfleoedd i gleifion, staff ac ymwelwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.


Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i Hearts and Flowers / About Flowers, y busnesau lleol a gyfrannodd i’r digwyddiad a phawb a fynychodd y gweithdy, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad a gynhelir gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn y dyfodol, cadwch lygad ar dudalen digwyddiadau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: https://healthcharity.wales/events/