We were delighted to support artist and community connector, Nerida Bradley, to build new relationships with vulnerable and marginalised groups within our communities with the aim of discovering any hurdles which may exist for vulnerable young people to access our services.
Nerida worked with Llamau, a leading homelessness charity in Wales which supports young people and women. Nerida is creating an arts mural with the women’s housing project.
Pilot creative arts sessions at Learning 4 Life included drawing and creative writing to encourage self-expression and as a means of regulating emotion.
Pilot creative arts sessions at Womens Housing Project were aimed at encouraging relaxation, building confidence and strengthening social health within the housing project by facilitating the creation of a mural by the women within their communal space.


‘’There is a great deal of potential for collaboration between Cardiff and Vale UHB and Wales Millennium Centre. Wales Millennium Centre have a number of community seats at a reduced price for each performance which CAVC UHB’s groups can access upon request, helping to bring new audiences into the WMC and improve access to the arts for the wider community. There is also potential for work created as part of the CRI project to be showcased within the WMC’s programming (such as Llais).
There is also potential collaboration to make healthcare more accessible – for instance, collaborating with CAVC UHB on Smut Slam which we programme in our Ffresh Bar space to offer sexual health advice and signpost to CRI’s services. WMC are passionate about championing the cultural contract and ensuring that work produced has a social responsibility – therefore any work that can be made in collaboration with CAVC UHB is of great interest to the Centre.’’
-Nerida Bradley
We are excited by the possibilities identified for collaboration during a short time as a result of the Cardiff Royal Infirmary, people, place, future project, and are greatly appreciative of the support and commitment from WMC for this collaborative initiative.
We would like to thank Nerida for her work, and Emma Evans, WMC for her support.
Cydweithio â Chanolfan Mileniwm Cymru
Roeddem yn falch iawn o gefnogi’r artist a’r cysylltydd cymunedol, Nerida Bradley, i adeiladu cydberthnasau newydd gyda grwpiau bregus sydd wedi’u hynysu yn ein cymunedau gyda’r nod o ddarganfod unrhyw rwystrau a allai fodoli i bobl ifanc agored i niwed wrth geisio cael mynediad at ein gwasanaethau.
Gweithiodd Nerida gyda Llamau, elusen ddigartrefedd flaenllaw yng Nghymru sy’n cefnogi pobl ifanc a menywod. Mae Nerida yn creu murlun celfyddydol gyda’r Women’s Housing Project.
Roedd y sesiynau peilot ar gyfer y celfyddydau creadigol yn Learning 4 Life yn cynnwys darlunio ac ysgrifennu creadigol i annog hunanfynegiant ac fel ffordd o reoleiddio emosiwn.
Nod y sesiynau peilot celfyddydau creadigol yn Women’s Housing Project oedd annog ymlacio, magu hyder a chryfhau iechyd cymdeithasol o fewn y prosiect tai drwy hwyluso’r gwaith o greu murlun ar gyfer y menywod o fewn eu gofod cymunedol.


“Mae llawer iawn o botensial ar gyfer cydweithio rhwng BIP Caerdydd a’r Fro a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru nifer o seddi cymunedol am bris is ar gyfer pob perfformiad y gall grwpiau CAVC BIP gael mynediad atynt ar gais, gan helpu i ddod â chynulleidfaoedd newydd i Ganolfan Mileniwm Cymru a gwella mynediad at y celfyddydau ar gyfer y gymuned ehangach. Mae potensial hefyd i waith a grëwyd fel rhan o brosiect CRI gael ei arddangos o fewn rhaglenni Canolfan Mileniwm Cymru (fel Llais).
Mae yna bosibilrwydd hefyd i gydweithio i wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch – er enghraifft, cydweithio â CAVC BIP ar Smut Slam, sy’n cael ei raglennu yn ein gofod Bar Ffresh i gynnig cyngor iechyd rhywiol a chyfeirio at wasanaethau CRI. Mae CMC yn angerddol am hyrwyddo’r contract diwylliannol a sicrhau bod gan y gwaith a gynhyrchir gyfrifoldeb cymdeithasol – felly mae unrhyw waith y gellir ei wneud mewn cydweithrediad â CAVC BIP o ddiddordeb mawr i’r Ganolfan.”
-Nerida Bradley
Rydym wedi ein cyffroi gan y posibiliadau a nodwyd ar gyfer cydweithio yn ystod cyfnod byr o ganlyniad i Brosiect Ysbyty Brenhinol Caerdydd; Pobl, Lle, Dyfodol, ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r ymrwymiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer y fenter gydweithredol hon.
Hoffem ddiolch i Nerida am ei gwaith, ac Emma Evans, CMC am ei chefnogaeth.