Letters to Us

A collaboration between Spoken Word Poet, Duke Al and the Links Mental Health Service at Cardiff Royal Infirmary.

Part of the Cardiff Royal Infirmary: People, Place, Future project.

We were delighted to commission Duke Al to design and deliver an 8 week poetry writing course for people attending our Links Community Mental Health Service. Sessions were tailored to the group in collaboration with Evey Damato, Occupational Therapist at the Links Team.

Participants thoroughly enjoyed the course which provided an opportunity for focussed self-expression and sharing with the group, and the creation of a letter in the form of a poem to their own mental health condition.

Letters to Us was a highly successful and effective arts project which not only developed participants’ skills in poetry writing, but gave them the tools to further understand their mental health condition and introduced them to new wellbeing strategies. Sharing personal stories through poetry writing built confidence throughout the course, and provided understanding of other participants mental health. Participants were proud to share their final poems, and collaborated with Amelia Unity to create a wall mural in the Links Service at the Cardiff Royal Infirmary.

We were delighted to support this innovative arts-in-health project, which saw close collaboration between Evey Damato and the LINKS team with spoken word poet, Duke Al

Letters to Us

Cydweithrediad rhwng Bardd y Gair Llafar, Duke Al a Gwasanaeth Iechyd Meddwl Links yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Rhan o brosiect Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol.

Roedd yn bleser gennym gomisiynu Duke Al i ddylunio a chyflwyno cwrs ysgrifennu barddoniaeth 8 wythnos ar gyfer pobl sy’n mynychu ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Links. Cafodd sesiynau eu teilwra i’r grŵp mewn cydweithrediad ag Evey Damato, Therapydd Galwedigaethol yn y Tîm Links.

Mwynhaodd y cyfranogwyr y cwrs yn fawr iawn a chawsant gyfle i gyfleu hunanfynegiant â ffocws a rhannu straeon gyda’r grŵp, ynghyd â chreu llythyr ar ffurf cerdd i’w cyflwr iechyd meddwl eu hunain.

Roedd Letters to Us yn brosiect celfyddydau hynod lwyddiannus ac effeithiol a wnaeth nid yn unig ddatblygu sgiliau’r cyfranogwyr mewn ysgrifennu barddoniaeth, ond rhoi’r offer iddynt ddeall eu cyflwr iechyd meddwl ymhellach a’u cyflwyno i strategaethau lles newydd. Fe wnaeth y cyfranogwyr fagu hyder drwy gydol y cwrs wrth iddynt rannu straeon personol trwy ysgrifennu barddoniaeth, a chawsant hefyd ddealltwriaeth o iechyd meddwl cyfranogwyr eraill. Roedd y cyfranogwyr yn falch o rannu eu cerddi terfynol, a buont yn cydweithio ag Amelia Unity i greu murlun wal yng Ngwasanaeth Links yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Roeddem yn falch iawn o gefnogi’r prosiect celfyddydau mewn iechyd arloesol hwn, a welodd gydweithio agos rhwng Evey Damato a thîm LINKS gyda bardd y gair llafar, Duke Al.

Leave a Reply