The Arts for Health and Wellbeing team are delighted to welcome Karolina Birger to Cardiff & Vale Health Charity as part of the Arts and Business Cymru Creative Internship Programme. She will be supporting the team as a fundraiser, developing and learning new skills in the area to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme.

Karolina secured the internship after graduating in BA Photography at the University of South Wales. She finds her compassion towards the surrounding world helps her create striking images that explore challenging issues and ideas of consumption through their beauty. As an artist, Karolina understands the power of art and its positive impact on mental health and wellbeing.

During the ten month internship, Karolina wishes to use a combination of her passion for art and soft skills to support the team. She is already implementing her knowledge from her previous experience in hospitality, working on festivals and photography, to get to grips with fundraising.

Karolina has already proved a wonderful addition to the team and we look forward to supporting her on her journey to becoming an Arts Fundraiser.

Croeso i Karolina!

Mae’n bleser gan dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles groesawu Karolina Birger i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro fel rhan o Raglen Interniaeth Greadigol Celfyddydau a Busnes Cymru. Bydd yn cefnogi’r tîm fel swyddog codi arian, gan ddatblygu a dysgu sgiliau newydd yn y maes i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.

Sicrhaodd Karolina yr interniaeth ar ôl graddio mewn BA Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei thosturi tuag at y byd o’i chwmpas yn ei helpu i greu delweddau trawiadol sy’n archwilio materion heriol a syniadau o ran defnydd trwy eu harddwch. Fel artist, mae Karolina yn deall pŵer celf a’i effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles.

Yn ystod yr interniaeth deg mis, mae Karolina yn dymuno defnyddio cyfuniad o’i hangerdd am gelf a sgiliau meddal i gefnogi’r tîm. Mae hi eisoes yn cymhwyso ei gwybodaeth o’i phrofiad blaenorol mewn lletygarwch, gweithio ar wyliau a ffotograffiaeth, i fynd i’r afael â’r gwaith codi arian.

Mae Karolina eisoes wedi profi ei bod yn ychwanegiad gwych i’r tîm ac edrychwn ymlaen at ei chefnogi ar ei thaith i fod yn Swyddog Codi Arian y Celfyddydau.

Leave a Reply