The Arts for Health and Wellbeing Team are delighted to launch ‘HOSPES’, an immersive, site-specific installation and online portal created by award-winning composer & multimedia artist John Meirion Rea, in collaboration with cinematographer and photographer, Huw Talfryn Walters.
HOSPES
Latin
Noun Hospes m (genitive hospitis); third declension
1. host
2. guest, visitor






The installation will be sited on the first floor of the renovated Capel I Bawb at Cardiff Royal Infirmary, above the Aroma café, in the wonderfully re-designed original chapel.
HOSPES is part of the Cardiff Royal Infirmary: People,Pplace, Future project, funded by the Arts Council of Wales through the Arts, Health and Wellbeing Lottery fund, and has been a year in the making. The stunning sound composition and installation celebrates the strong voices of our unique multi-cultural communities, and the online portal provides a digital legacy for this ground-breaking arts project.
“HOSPES is an immersive, site-specific installation and online portal, which places The Cardiff Royal Infirmary in its historical and social context. I have spent the past eleven months reaching out into the surrounding streets and boroughs, recording conversations, abstract soundscapes, and capturing images in an attempt to define, or at least search for a sense of what modern ‘urban Welshness’ might be.
Much of my creative work is inspired by the voices of the people of Wales; my fascination has been on the melodic nature, and the textures of language and dialect and how this helps us learn something about our shared history, and the collective present.
The History of Tredegarville, Splott, and Adamsdown can be traced in its architecture: specifically in the change of its usage and function, whether falling into disuse, or being demolished completely and replaced with the new. But if we look more closely at this transformation, a picture emerges of change in the population, and the communities that live, and have lived here. This is particularly true of the Infirmary, and its previous incarnations as a Dispensary in this part of the City. Together, they represent a two-hundred-year history, and the origins of Cardiff as a City, forged in the Industrial Revolution and beginning with a meeting, chaired by the 2nd Marquess of Bute in Cardiff Town Hall, in 1822. So, this fascinating contrast of permanence and transience, both in the ‘hard ambience’ of the buildings themselves and their transformation in usage, also the ever evolving ‘soft ambiences’ of diasporic languages, dialects and soundworlds.“
-John Meirion Rea
The Arts for Health and Wellbeing team invite you to visit ‘HOSPES’:
First Floor
Capel I Bawb
Aroma Cafe
Cardiff Royal Infirmary
Glossop Road Entrance
Cardiff
CF24 OJT
Tuesday 18th October 10-4pm
Wednesday 19th October 10-4pm
Thursday 20th October 10-7pm
Friday 21st October 10-4pm
Saturday 22nd October 10-2pm
Monday 24th October 10-4pm
Tuesday 25th October 10-2pm






Cardiff Royal Infirmary is an iconic Cardiff landmark building steeped in healthcare history and heritage. Formally an inpatient and nurses training hospital, the ‘CRI’ is now the first of Cardiff and Vale UHB’s Wellbeing Centres, providing services for some of the most marginalised and vulnerable people within our communities alongside regular healthcare services. As we redefine our services for the future, we look to provide accessible and equitable quality of care to all, and to tell the unique, fascinating stories of the people within our communities.
We are deeply grateful to John Meirion Rea and his team for creating this wonderful artwork and digital legacy:
https://www.hospescardiff.com/
Prosiect Sain a Ffilm newydd yn agor yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch iawn o lansio ‘HOSPES’, prosiect ymdrwythol, benodol i safle a phorth ar-lein a grëwyd gan y cyfansoddwr a’r artist amlgyfrwng arobryn, John Meirion Rea, mewn cydweithrediad â’r ffilmiwr a’r ffotograffydd, Huw Talfryn Walters.






HOSPES
Lladin
Enw Hospes (genidol hospitis); trydydd rhediadol
1. cynhaliwr
2. gwestai, ymwelydd
Gellir dod o hyd i’r prosiect ar lawr cyntaf Capel i Bawb a adnewyddwyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, uwchben caffi Aroma, yn y capel gwreiddiol sydd wedi’i ail-ddylunio’n fendigedig.
Mae HOSPES yn rhan o brosiect Ysbyty Brenhinol Caerdydd: pobl, lle, dyfodol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy gronfa’r Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles, ac mae wedi bod ar y gweill ers blwyddyn. Mae cyfansoddiad y sain a’r prosiect trawiadol yn dathlu lleisiau cryf ein cymunedau amlddiwylliannol unigryw, ac mae’r porth ar-lein yn darparu gwaddol digidol ar gyfer y prosiect celfyddydol arloesol hwn.
“Mae HOSPES yn brosiect ymdrwythol, benodol i safle a phorth ar-lein, sy’n gosod Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol. Rwyf wedi treulio’r un mis ar ddeg diwethaf yn estyn allan i’r strydoedd a’r bwrdeistrefi cyfagos, yn recordio sgyrsiau, seinweddau haniaethol, ac yn cofnodi delweddau mewn ymgais i ddiffinio, neu o leiaf chwilio am ymdeimlad o beth allai ‘Cymreictod trefol’ modern fod.
Mae llawer o fy ngwaith creadigol wedi’i ysbrydoli gan leisiau pobl Cymru; mae fy niddordeb wedi bod ar natur felodig, a gweadau iaith a thafodiaith a sut mae hyn yn ein helpu i ddysgu rhywbeth am ein hanes a rennir, a’r presennol cyfunol.
Gellir olrhain Hanes Tredegarville, y Sblot, ac Adamsdown yn ei bensaernïaeth: yn benodol yn y newid o’i ddefnydd a’i swyddogaeth, p’un a na chaiff ei ddefnyddio bellach, neu os caiff ei ddymchwel yn llwyr a’i ddisodli gan y newydd. Ond os edrychwn yn fanylach ar y trawsnewidiad hwn, daw darlun i’r amlwg o newid yn y boblogaeth, a’r cymunedau sy’n byw, ac sydd wedi byw yma. Mae hyn yn arbennig o wir am yr Ysbyty, a’i ffurf flaenorol fel Fferyllfa yn y rhan hon o’r Ddinas. Gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli hanes dau gan mlynedd, a gwreiddiau Caerdydd fel Dinas, a ffurfiwyd yn y Chwyldro Diwydiannol gan ddechrau gyda chyfarfod wedi’i gadeirio gan 2il Ardalydd Bute yn Neuadd y Dref, Caerdydd, ym 1822. Felly, ceir cyferbyniad diddorol o barhad a byrhoedledd, o ran ‘awyrgylch caled’ yr adeiladau eu hunain a’r trawsnewidiad yn eu defnydd, yn ogystal â’r ‘awyrgylch meddal’ sy’n esblygu’n barhaus o ieithoedd, tafodieithoedd a bydoedd sain gwasgaredig.“
-John Meirion Rea
Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn eich gwahodd i ymweld â ‘HOSPES’:
Llawr Cyntaf
Capel i Bawb
Caffi Aroma
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Mynedfa Heol Glossop
Caerdydd
CF24 OJT
Dydd Mawrth 18 Hydref 10-4pm
Dydd Mercher 19 Hydref 10-4pm
Dydd Iau 20 Hydref 10-7pm
Dydd Gwener 21 Hydref 10-4pm
Dydd Sadwrn 22 Hydref 10-2pm
Dydd Llun 24 Hydref 10-4pm
Dydd Mawrth 25 Hydref 10-2pm






Mae Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn adeilad eiconig, nodedig yng Nghaerdydd sy’n llawn treftadaeth a hanes gofal iechyd. Y ‘CRI’, a oedd yn ysbyty hyfforddi nyrsys ac uned cleifion mewnol yn flaenorol, yw’r cyntaf o Ganolfannau Lles BIP Caerdydd a’r Fro, gan ddarparu gwasanaethau i rai o’r bobl fwyaf bregus ac ar y cyrion yn ein cymunedau, ochr yn ochr â gwasanaethau gofal iechyd rheolaidd. Wrth i ni ailddiffinio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, ein bwriad yw darparu gofal hygyrch a chyfartal i bawb, ac adrodd straeon unigryw, hynod ddiddorol y bobl o fewn ein cymunedau.
Rydym yn ddiolchgar iawn i John Meirion Rea a’i dîm am greu’r gwaith celf a’r gwaddol digidol gwych yma:
https://www.hospescardiff.com/cymraeg
