On Sunday 2nd October, Lisa-Marie Mansfield completed the Cardiff Half Marathon to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme.

Lisa-Marie has worked with the Arts for Health and Wellbeing Programme on the Arts Council of Wales funded project Cardiff Royal Infirmary; People Place Future for the past 12 months and chose to support the programme because of the importance it has to herself and others at Cardiff and Vale University Health Board.
During the Half Marathon, Lisa-Marie shared support with other members of staff and participants running for Cardiff & Vale Health Charity.
“It was a fantastic day, saw some familiar faces including Simone from the team! I really enjoyed myself and the best part about doing it on your own is you get to make friends along the way! It was amazing to see so many people come together to motivate and support each other, the atmosphere was just incredible and I would do it all again.”
-Lisa-Marie Mansfield
Lisa-Marie raised over £500 on her JustGiving page, which is still open to anyone wishing to support Lisa-Marie’s fundraising: https://www.justgiving.com/fundraising/lisa-marie-mansfield/
We would like to say a big congratulations and thank you to Lisa-Marie for completing the Cardiff Half Marathon and conquering her fundraising target for the event.
If you are feeling inspired to take on a challenge to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme, please contact fundraising.cav@wales.nhs.uk or sign up to an event on the Health Charity website and select the Arts for Health and Wellbeing Programme as the area you would like to support on the registration form: https://healthcharity.wales/events/
Llongyfarchiadau i Lisa-Marie Mansfield ar gwblhau Hanner Marathon Caerdydd dros Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles
Ddydd Sul 2 Hydref, cwblhaodd Lisa-Marie Mansfield Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.

Mae Lisa-Marie wedi gweithio gyda Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ar brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd; Pobl Lle Dyfodol, am y 12 mis diwethaf a dewisodd gefnogi’r Rhaglen oherwydd ei phwysigrwydd iddi hi ei hun ac eraill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Yn ystod yr Hanner Marathon, bu Lisa yn rhannu cefnogaeth gydag aelodau o staff ac unigolion eraill a oedd yn rhedeg ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
“Roedd yn ddiwrnod gwych, fe wnes i weld rhai wynebau cyfarwydd gan gynnwys Simone o’r tîm! Fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr a’r peth gorau am ei wneud ar eich pen eich hun yw eich bod chi’n gallu gwneud ffrindiau ar hyd y daith! Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i ysgogi a chefnogi ei gilydd, roedd yr awyrgylch yn anhygoel a byddwn yn gwneud y cyfan eto.”
– Lisa-Marie Mansfield
Cododd Lisa-Marie dros £500 ar ei thudalen JustGiving, sy’n dal yn agored i unrhyw un sy’n dymuno cefnogi ymgyrch codi arian Lisa-Marie: https://www.justgiving.com/fundraising/lisa-marie-mansfield/
Hoffem ddweud llongyfarchiadau mawr a diolch i Lisa-Marie am gwblhau Hanner Marathon Caerdydd a choncro ei tharged codi arian ar gyfer y digwyddiad.
Os ydych chi wedi eich ysbrydoli i ymgymryd â her i godi arian i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk neu cofrestrwch i gymryd rhan mewn digwyddiad ar wefan yr Elusen Iechyd a dewiswch Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles fel yr adran yr hoffech chi ei chefnogi ar y ffurflen gofrestru: https://healthcharity.wales/events/