The Arts for Health and Wellbeing Programme is pleased to welcome back Forget-me-not Chorus for a new term at Barry Hospital and University Hospital Llandough, this International Day of Older Persons.
Forget-me-not Chorus deliver sessions to wards that aim is to bring joy and laughter to patients through singing and movement, which can foster a sense of worth, and enrich the lives of those affected by dementia.

“We are delighted to be returning to running in person sessions in the Older Person’s Mental Health Unit in University Hospital Llandough and in the Young Onset Dementia service in Barry Hospital. Throughout the pandemic we supported the patients and staff from afar through outdoor and online sessions and so we are thrilled to be able to return to weekly in person sessions that will support the wellbeing of both patients and staff. The sessions will bring joy, laughter and community to the wards, raising voices, energising bodies and sharing in the joy of song.”
– Kate Woolveridge, Co-Founder and Director
It is a pleasure to share the work and positive impact of Forget-me-not Chorus on International Day of Older Persons, which exists to challenge negative stereotypes and misconceptions about older persons and ageing, and to enable older persons to realize their potential.
We wish Forget-me-not Chorus the best of luck with their new term with us and are looking forward to hearing some wonderful singing on the wards!
Croesawu Forget-me-not Chorus yn ôl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar Ddechrau Tymor Newydd
Mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o groesawu Forget-me-not Chorus yn ôl am dymor newydd yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Athrofaol Llandochau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.
Mae Forget-me-not Chorus yn cyflwyno sesiynau i wardiau gyda’r nod o ddod â llawenydd a chwerthin i gleifion trwy ganu a symud, a all feithrin ymdeimlad o werth, a chyfoethogi bywydau’r rhai hynny sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

“Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn yr Uned Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac yn y gwasanaeth Dementia Cynnar yn Ysbyty’r Barri. Drwy gydol y pandemig fe wnaethom gefnogi’r cleifion a’r staff o bell drwy sesiynau awyr agored ac ar-lein ac felly rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dychwelyd i sesiynau wythnosol wyneb yn wyneb a fydd yn cefnogi lles cleifion a staff. Bydd y sesiynau’n dod â llawenydd, chwerthin ac ymdeimlad o gymuned i’r wardiau, wrth i ni ddefnyddio ein lleisiau, symud ein cyrff a rhannu llawenydd wrth ganu.”
– Kate Woolveridge, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr
Mae’n bleser rhannu gwaith ac effaith gadarnhaol Forget-me-not Chorus ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, sy’n bodoli i herio stereoteipiau negyddol a chamsyniadau am bobl hŷn a heneiddio, ac i alluogi pobl hŷn i wireddu eu potensial.
Dymunwn bob lwc i Forget-me-not Chorus wrth ddechrau tymor newydd gyda ni ac rydym yn edrych ymlaen at glywed canu bendigedig ar y wardiau!