Through funding from the Staff Lottery at Cardiff & Vale Health Charity, the Arts for Health and Wellbeing Programme are proud to create a timeline to reflect 200 years of organised healthcare being provided in the South and East Cardiff Locality area, which is now on display in the Therapies corridor at Cardiff Royal Infirmary.

The timeline follows the journey of the hospital since 1822 as it moved to numerous locations from the Cardiff Dispensary’s first site on Working Street, The Hayes and eventually, to the current site of Cardiff Royal Infirmary. The timeline captures significant events, achievements and changes that that took place at the hospital, throughout this time as well as demonstrating an idea of what it would have been like for the patients and staff who were based there.
The content of the timeline was curated and identified by Bex Betton who led on the project and Gwawr Faulconbridge with the support from local museums, archives, newspapers and current and past members of staff. The timeline was then illustrated and installed as a wall vinyl by Grosvenor Interiors.
We’d like to say a big thank you to everyone who contributed to the timeline.



“It has been a pleasure to explore the history of Cardiff Royal Infirmary and beyond as part of this project and hear so many wonderful stories from previous members of staff as well as making connections with current ones. It is fantastic to see the timeline up on the wall and share the sites history and heritage with the Cardiff Royal Infirmary community.”
-Bex Betton, Arts Fundraising Support Officer
If you are interested in viewing the timeline, please check the current Covid-19 regulations at Cardiff Royal Infirmary and adhere to any guidelines and practices.
For more information on the Arts for Health and Wellbeing team’s work at Cardiff Royal Infirmary, please visit: https://cardiffandvale.art/cardiff-royal-infirmary-people-place-future/
By joining the Staff Lottery, you can support projects like this, with a chance to win £1,000 every week as well as make an application for funds to benefit your own department. For more information please visit: https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/
Llinell Amser Ysbyty Brenhinol Caerdydd; 200 mlynedd o ofal iechyd wedi’i drefnu yn cael ei ddarparu yn ardal De a Dwyrain Caerdydd
Trwy gyllid gan y Loteri i Staff yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o greu llinell amser i adlewyrchu 200 mlynedd o ofal iechyd wedi’i drefnu yn cael ei ddarparu yn ardal De a Dwyrain Caerdydd, sydd bellach yn cael ei arddangos yn y coridor Therapïau yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Mae’r llinell amser yn dilyn taith yr ysbyty ers 1822 wrth iddo symud i nifer o leoliadau, o safle cyntaf Cardiff Dispensary ar Working Street, Yr Aes ac yn y pen draw, i safle presennol Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’r llinell amser yn cofnodi digwyddiadau, cyflawniadau a newidiadau arwyddocaol a ddigwyddodd yn yr ysbyty drwy gydol y cyfnod hwn, yn ogystal â rhoi syniad o sut brofiad fyddai wedi bod i’r cleifion a’r staff a oedd wedi’u lleoli yno.
Curadwyd a chofnodwyd cynnwys y llinell amser gan Bex Betton, a arweiniodd y prosiect, a Gwawr Faulconbridge gyda chefnogaeth amgueddfeydd lleol, archifau, papurau newydd ac aelodau presennol a chyn-aelodau staff. Yna darluniwyd y llinell amser a’i gosod fel finyl ar y wal gan Grosvenor Interiors.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y llinell amser.



“Mae wedi bod yn bleser archwilio hanes Ysbyty Brenhinol Caerdydd a thu hwnt fel rhan o’r prosiect hwn a chlywed cymaint o straeon hyfryd gan gyn-aelodau o staff yn ogystal â gwneud cysylltiadau â staff presennol. Mae’n wych gweld y llinell amser ar y wal a rhannu hanes a threftadaeth y safle gyda chymuned Ysbyty Brenhinol Caerdydd.”
-Bex Betton, Swyddog Cymorth Codi Arian y Celfyddydau
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y llinell amser, gwiriwch y rheoliadau COVID-19 presennol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a chadw at unrhyw ganllawiau.
I gael rhagor o wybodaeth am waith tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ewch i: https://cardiffandvale.art/cardiff-royal-infirmary-people-place-future/
Trwy ymuno â’r Loteri i Staff, gallwch gefnogi prosiectau fel hyn, gyda chyfle i ennill £1,000 bob wythnos yn ogystal â gwneud cais am arian er budd eich adran eich hun. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/