
The Hearth Gallery are delighted to welcome Queer Joy – a group exhibition byLGBTQIA+ Welsh and Wales-based artists, curated by Umbrella Collective.
Queer Joy is an exhibition of LGBTQIA+ Welsh and Wales-based artists who explore what it is to be queer in today’s society. Their work is inherently joyful in its depiction yet explores the complexity of queer existence. Often identity is forced into binary terms, which goes against the beliefs and practice of queer folk. These works provide an insight from the artists’ perspective; a window into the challenges and ‘failings’ they face in a heteronormative society, and the celebration of overcoming these trials.


The word ‘queer’ has been reclaimed by the LGBTQIA+ community as an umbrella term for people who are not heterosexual or cisgender. Finding joy in a word that was once used as a slur, shows its power.
This exhibition has been curated by Cardiff Umbrella; an artist-led, community focussed and socially driven organisation that aims to contribute positively to the local community; practising an open-door policy, hosting exhibitions, workshops, skill-sharing events and residencies.

Our ethos ‘Art For All’ is in our everyday actions, and we hope to connect our audience with other important communities in Wales. We are an active, diverse and creative space for emerging artists, facilitating the development of creative practices. We recognise the value in learning from each other and sharing knowledge, skills and experience.
- Umbrella Collective

The Queer Joy exhibition will run until 10th October 2022.
For more information about the Arts for Health and Wellbeing Programme, and our exhibition spaces, please visit www.cardiffandvale.art and our social media pages @CAVuhbArts and @thehearthgallery on all platforms.
If you require further information, would like to purchase any of the artworks on show, or would like to be included in future exhibitions please contact: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk

Queer Joy
Mae’n bleser gan Oriel yr Aelwyd groesawu Queer Joy — arddangosfa grŵp gan artistiaid LHDTCRhA+ o Gymru ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru, wedi’i churadu gan Umbrella Collective.
Mae Queer Joy yn arddangosfa o artistiaid LHDTCRhA+ o Gymru ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru sy’n archwilio’r profiad o fod yn cwiar yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae eu gwaith yn cyfleu llawenydd yn ei hanfod ond hefyd yn archwilio cymhlethdod bodolaeth cwiar. Yn aml, gorfodir hunaniaeth i dermau deuaidd, sy’n mynd yn groes i gredoau ac arfer pobl cwiar. Mae’r gwaith hwn yn rhoi mewnwelediad yr artistiaid; mae’n ffenestr i’r heriau a’r ‘methiannau’ y maent yn eu hwynebu mewn cymdeithas heteronormadol, ac yn dathlu goresgyn y treialon hyn.


Mae’r gair ‘cwiar’ wedi cael ei adennill gan y gymuned LHDTCRhA+ fel term ymbarél ar gyfer pobl nad ydynt yn heterorywiol nac yn cisryweddol. Mae dod o hyd i lawenydd mewn gair a ddefnyddiwyd unwaith fel sarhad, yn dangos ei rym.
Curadwyd yr arddangosfa hon gan Cardiff Umbrella; sefydliad dan arweiniad artistiaid, sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn cael ei hybu gan y gymdeithas, ac sy’n anelu at gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned leol; drwy ymarfer polisi drws agored, cynnal arddangosfeydd, gweithdai, digwyddiadau rhannu sgiliau a phreswyliadau.

Mae ein hethos ‘Celf i Bawb’ yn rhan o’n gweithredoedd bob dydd, ac rydym yn gobeithio cysylltu ein cynulleidfa â chymunedau pwysig eraill yng Nghymru. Rydym yn ofod gweithredol, amrywiol a chreadigol ar gyfer artistiaid sy’n dod i’r amlwg, gan hwyluso datblygiad arferion creadigol. Rydym yn cydnabod gwerth dysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.
- Umbrella Collective

Bydd arddangosfa Queer Joy yn rhedeg tan 10 Hydref 2022.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a’n hardaloedd arddangos, ewch i www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @CAVuhbArts ac @thehearthgallery ar bob platfform.
I gael rhagor o wybodaeth, i brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosfeydd y dyfodol, cysylltwch â: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk