Artist Mike Biddulph has generously donated a piece of art, titled ‘Bute Park’, which can be seen at University Hospital of Wales.

The artwork celebrates the contribution that open spaces and nature make to the lives of people who live in a city. These spaces are considered more natural, and less manicured and managed than areas of the countryside, and this area hidden away in the corner of Bute Park at the heart of Cardiff is an example. Mike found this place during the COVID pandemic lockdowns, where he and his wife would walk out across the city in different directions to get out of the house and get some much-needed exercise.

Like a lot of Mike’s drawings, this image has been created with a simple ink pen over many sittings. Having grown up amongst architectural plans, it’s clear to see the essence of his upbringing influencing his current work.

Mike donated ‘Bute Park’ to remind our patients, staff, and visitors what is out there, and hopes the image and its effects brings a bit of joy and comfort to their day.

You can see more of Mike’s work here.

‘Parc Bute’ yn rhodd gan yr Artist Mike Biddulph

Mae’r artist Mike Biddulph, yn garedig iawn, wedi rhoi darn o waith celf i ni, o’r enw ‘Parc Bute’, sydd i’w weld yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae’r gwaith celf yn dathlu’r cyfraniad y mae mannau agored a natur yn ei wneud i fywydau pobl sy’n byw mewn dinas. Ystyrir y mannau hyn yn fwy naturiol ac yn cael eu rheoli a’u trin yn llai nag ardaloedd o gefn gwlad, ac mae’r ardal hon sydd wedi’i chuddio yng nghornel Parc Bute yng nghanol Caerdydd yn enghraifft o hyn. Daeth Mike o hyd i’r lle hwn yn ystod cyfnodau clo pandemig COVID pan fyddai ef a’i wraig yn cerdded ar hyd a lled y ddinas i wahanol gyfeiriadau i ddianc o’r tŷ a chael rhywfaint o ymarfer corff angenrheidiol.

Fel llawer o waith celf Mike, mae’r llun wedi’i ddarlunio gyda beiro inc syml yn ystod sawl sesiwn. Wedi ei fagu ymhlith cynlluniau pensaernïol, mae hanfod ei fagwraeth yn ddylanwad amlwg ar ei waith presennol.

Rhoddodd Mike y darn ‘Parc Bute’ i atgoffa ein cleifion, staff ac ymwelwyr o’r hyn sydd allan yna, ac mae’n gobeithio y bydd y llun a’i heffaith yn dod â rhywfaint o lawenydd neu gysur i’w diwrnod. Gallwch weld rhagor o waith Mike yma.

Leave a Reply