We are delighted to present the ‘Our Art Asset’, exhibiting donated artwork from the ‘NHS Online Art Auction 2022’ that took place at the Hearth Gallery this spring.

All work on display is available, and has been kindly donated by local artists who have worked with us over the years, and ones who are new to the Arts for Health and Wellbeing Programme. The donated pieces showcase a diverse range of individual styles, and include work by Harry Holland, Malcolm Murphy, Nathan Wyburn, Jacqueline Alkema and many more incredibly talented artists.

100% of the funds raised from the auction will go to the Arts for Health and Wellbeing Programme, supporting the team at this vital time to provide patients and staff with creative experiences, environments and opportunities.

Thank you to all of the artists who generously donated artwork to aid future fundraising for the Arts for Health and Wellbeing Programme.

The ‘Our Art Asset’ exhibition will run 20th July – 26th September 2022.

For more information about the Arts for Health and Wellbeing Programme and our exhibition spaces, please visit www.cardiffandvale.art and our social media pages @thehearthgallery

If you require further information, would like to purchase any of the artworks on show, or to be included in future exhibitions please contact: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ‘Our Art Asset’, sy’n arddangos gwaith celf a gyfrannwyd o ‘Arwerthiant Celf Ar-lein y GIG 2022’ a gynhaliwyd yn Oriel yr Aelwyd y gwanwyn hwn.

Mae’r holl waith sy’n cael ei arddangos ar gael, ac wedi’i roi’n garedig gan artistiaid lleol sydd wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd, a rhai sy’n newydd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles. Mae’r darnau a roddwyd yn arddangos amrywiaeth eang o arddulliau unigol, ac yn cynnwys gwaith gan Harry Holland, Malcolm Murphy, Nathan Wyburn, Jacqueline Alkema a llawer mwy o artistiaid hynod dalentog.

Bydd 100% o’r arian a godir o’r arwerthiant yn mynd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, gan gefnogi’r tîm ar yr adeg hanfodol hon i roi profiadau, amgylcheddau a chyfleoedd creadigol i gleifion a staff.

Diolch i’r holl artistiaid a fu’n hael iawn yn cyfrannu gwaith celf er mwyn helpu i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn y dyfodol.

Cynhelir arddangosfa ‘Our Art Asset’ rhwng 20 Gorffennaf – 26 Medi 2022.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a’n hardaloedd arddangos, ewch i www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @thehearthgallery

I gael rhagor o wybodaeth, os hoffech brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu gael eich cynnwys yn arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk

Leave a Reply