
We are delighted to present the new Plaza exhibition – A Splash of Meadow, Vibrant and Free by Rachel Hannah. The series of artworks display peaceful natural settings of fauna and flora, allowing the viewer to transport themselves to the vibrant and thriving meadows.


With a degree in Fine Art from Aberystwyth University, Rachel has been a professional artist since 2016. She has worked with the Arts for Health and Wellbeing Programme multiple times in the past to bring these bright and cheerful works to the Cardiff and Vale University Health Board staff, patients and visitors.


Hi, my name is Rachel Hannah. I am a Cardiff based meadow artist and Community Support Worker. I am excited to be exhibiting here again with a new set of paintings from the past 8 months. I aim to create vibrant, textured and uplifting scenes which I hope you can enjoy as you’re passing through the hospital. Thank you and best wishes.
– Rachel Hannah


The Splash of Meadow, Vibrant and Free exhibition will run until 29th August 2022.
For more information about the Arts for Health and Wellbeing Programme and our exhibition spaces, please visit www.cardiffandvale.art and our social media pages @thehearthgallery
If you require further information or to purchase any of the artworks on show, or would like to be included in future exhibitions please contact: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk

A Splash of Meadow, Vibrant and Free – arddangosfa gan Rachel Hannah
Mae’n bleser gennym gyflwyno arddangosfa newydd y Plaza – ‘A Splash of Meadow, Vibrant and Free’ gan Rachel Hannah. Mae’r gyfres o ddarnau o waith celf yn arddangos lleoliadau naturiol heddychlon o ffawna a fflora, gan ganiatáu i’r gwyliwr gludo ei hun i’r dolydd bywiog a ffyniannus.


Mae Rachel, sydd â gradd mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth, wedi bod yn arlunydd proffesiynol ers 2016. Mae hi wedi gweithio gyda Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles sawl gwaith yn y gorffennol i ddod â’r darnau o waith celf llachar a hwyliog hyn i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cleifion ac ymwelwyr.


Helo, fy enw i yw Rachel Hannah. Rwy’n arlunydd dolydd ac yn Weithiwr Cymorth Cymunedol o Gaerdydd. Rwy’n edrych ymlaen at gael arddangos fy ngwaith yma eto gyda chyfres newydd o baentiadau o’r 8 mis diwethaf. Fy nod yw creu golygfeydd bywiog, gweadog sy’n codi calon a gobeithiaf y gallwch eu mwynhau wrth i chi fynd drwy’r ysbyty. Diolch a dymuniadau gorau.
-Rachel Hannah


Bydd yr arddangosfa A Splash of Meadow, Vibrant and Free i’w gweld tan 29 Awst 2022.
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a’n hardaloedd arddangos, ewch i www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @thehearthgallery
I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk