Cardiff and Vale University Health Board and Cardiff & Vale Health Charity are proud to announce that textile artist Karen O’Shea will create exciting textile artwork as part of our Pride 2022 celebrations.

Through its Arts for Health and Wellbeing programme, Cardiff & Vale Health Charity is commissioning Karen O’Shea to create a special piece of textile artwork to celebrates the LGBTQ+ community and further support the Health Board’s inclusion agenda. 

Karen is a local textile artist and qualified teacher with a passion for sustainability. She utilises recycled materials of mainly natural origin and loves to inspire others into all kinds of creativity, especially stitch. 

She is passionate about the value of creativity for wellbeing and believes that creativity gives people a voice, regardless of their background or ability.

The Arts Team are thrilled to have selected Karen to commission a new piece that will champion and celebrate people’s life choices through her vibrant and colourful textural artwork.

We are looking forward to sharing more information and updates on our social media channels.

Karen teaches stitch and art textiles in locations around Cardiff and Newport and has a new weekly course launching this September.

To find out more about Karen’s inspiration and her work, visit karenoshea.co.uk.

Karen O’Shea i greu gwaith celf tecstilau cyffrous fel rhan o’n dathliadau Pride

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi y bydd yr artist tecstilau Karen O’Shea yn creu darn o waith celf tecstilau fel rhan o’n dathliadau Pride 2022.

Trwy ei Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn comisiynu Karen O’Shea i greu darn o waith celf tecstilau arbennig sy’n dathlu’r gymuned LHDTC+ ac sy’n cefnogi agenda cynhwysiant y Bwrdd Iechyd ymhellach. 

Mae Karen yn artist tecstilau lleol ac yn athrawes gymwysedig gydag angerdd am gynaliadwyedd. Mae hi’n defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu o darddiad naturiol yn bennaf ac wrth ei bodd yn ysbrydoli eraill gyda phob math o greadigrwydd, yn enwedig pwytho.

Mae hi’n angerddol am werth creadigrwydd ar gyfer lles ac yn credu bod creadigrwydd yn rhoi llais i bobl, waeth beth fo’u cefndir neu allu.

Mae aelodau Tîm y Celfyddydau wrth eu bodd o fod wedi dewis Karen i gomisiynu darn newydd a fydd yn hyrwyddo ac yn dathlu dewisiadau bywyd pobl trwy ei gwaith celf gweadol bywiog a lliwgar.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth a diweddariadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae Karen yn dysgu pwytho a thecstilau celf mewn lleoliadau o amgylch Caerdydd a Chasnewydd ac mae ganddi gwrs wythnosol newydd yn cael ei lansio ym mis Medi.

I ddarganfod mwy am ysbrydoliaeth Karen a’i gwaith, ewch i karenoshea.co.uk.

Leave a Reply