‘Creative Canopies: Stories of Nature and Heritage’ has been a wonderful collaborative project between the students on the BA (Hons) Creative and Therapeutic Arts degree at University of South Wales and the Assessment and Recovery Unit at Mental Health Services for Older People (MHSOP) at University Hospital Llandough.

The Creative and Therapeutic Arts students made artwork celebrating nature and the Queen’s Platinum Jubilee, and exhibited the pieces at the University Hospital Llandough Plaza to conclude the project. An opening event was also hosted, during which the students were able to meet the MHSOP Nurses that worked with the patients to create the artwork with an official handover of the final activity box for MHSOP patients to use for future projects.

The video documents the exhibition and the opening event, and contains thoughts from the BA (Hons) Creative and Therapeutic Arts lecturer – Heloise Godfrey-Talbot, BA (Hons) Creative and Therapeutic Arts students, MHSOP nurses – Daisy and Carys, and the Arts in Health Project Manager – Melanie Wotton.

The Arts for Health and Wellbeing Programme were delighted to take part in such an exciting project and would like to say a huge thank you to everyone involved.

Fideo i gloi’r Prosiect ‘Canopïau Creadigol’

Mae ‘Canopïau Creadigol: Straeon Natur a Threftadaeth’ wedi bod yn brosiect cydweithredol gwych rhwng myfyrwyr y radd BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru a’r Uned Asesu ac Adfer yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Gwnaeth myfyrwyr y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig waith celf yn dathlu byd natur a Jiwbilî Platinwm y Frenhines, ac arddangoswyd y darnau yn ardal y Plaza yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i gloi’r prosiect. Cynhaliwyd digwyddiad agoriadol hefyd, lle cafodd y myfyrwyr gyfle i gwrdd â’r nyrsys MHSOP a weithiodd gyda’r cleifion i greu’r gwaith celf, a chafodd y blwch gweithgaredd terfynol ei drosglwyddo’n swyddogol i gleifion MHSOP ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Mae’r fideo’n dogfennu’r arddangosfa a’r digwyddiad agoriadol, ac yn cynnwys syniadau gan ddarlithydd BA (Anrh) y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig – Heloise Godfrey-Talbot, myfyrwyr BA (Anrh) y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig, nyrsys MHSOP – Daisy a Carys, a Rheolwr y Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd – Melanie Wotton.

Roedd Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch iawn o gymryd rhan mewn prosiect mor gyffrous a hoffent ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.

Leave a Reply