
On Friday 17th June, Cardiff and Vale University Health Board CEO, Suzanne Rankin met with much respected and admired Cardiff Artist, Harry Holland at University Hospital Llandough to view his latest masterpiece of Aneurin Bevan, the founder of the National Health Service.
The title of the artwork is aptly named, ‘For Everyone’, and can be viewed in the main entrance of UHL, just as you step through the doors on your right.
When asked about the artwork, Harry said, “My life has been saved and I’ve been cared for by the NHS since I was seven years old and in all that time there has never been a hint that I was anything other than important and worth that care. This is my way of saying thank you to the people who did that.”
Harry is widely regarded as one of Britain’s best craftsmen, producing technically brilliant and very beautiful paintings. His style is distinctive and immediately recognisable, something which every artist seeks.
We’re incredibly grateful to Harry for donating such an extraordinary piece of artwork to the Arts for Health and Wellbeing Programme, and encourage all our patients, staff, visitors, and local community to view the painting.
If you would like to donate to our Arts for Health and Wellbeing Programme, please visit healthcharity.wales/donate or contact our Fundraising Team at fundraising.cav@wales.nhs.uk

I Bawb

Ar ddydd Gwener 17 Mehefin, fe aeth Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i gwrdd ag arlunydd uchel ei barch o Gaerdydd, Harry Holland, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i weld ei gampwaith diweddaraf o Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Teitl y gwaith celf, yn briodol iawn, yw ‘I Bawb’, a gellir ei weld ym mhrif fynedfa Ysbyty Athrofaol Llandochau, ar y dde yn syth ar ôl camu drwy’r drysau.
Pan ofynnwyd iddo am y gwaith celf, dywedodd Harry, “Mae’r GIG wedi achub fy mywyd ac wedi gofalu amdana i ers i mi fod yn saith oed, ac yn ystod yr holl amser hwnnw rydw i wastad wedi teimlo’n bwysig ac fel fy mod i’n haeddu’r gofal hynny. Dyma fy ffordd i o ddweud diolch i’r bobl a wnaeth i mi deimlo felly.”
Mae Harry’n cael ei ystyried yn eang fel un o grefftwyr gorau Prydain, gan gynhyrchu paentiadau sy’n dechnegol wych ac yn hynod hardd. Mae ei arddull yn unigryw ac yn hawdd i’w adnabod ar unwaith, rhywbeth y mae pob artist yn gobeithio amdano.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Harry am roi darn mor eithriadol o waith celf i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ac rydym yn annog ein holl gleifion, staff, ymwelwyr a’r gymuned leol i ddod i weld y paentiad.
Os hoffech gyfrannu at Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i healthcharity.wales/donate neu cysylltwch â’n Tîm Codi Arian drwy e-bostio fundraising.cav@wales.nhs.uk
