The Arts for Health and Wellbeing Programme have commissioned several large pieces of artwork that are now on full display in the main corridor of University Hospital Wales.

With thanks to Capital, Estates & Facilities, the walls were brightened with fresh coats of paint, new flooring, and lighting, allowing our artwork to stand out.

As you enter the main corridor, to your left you will see artist Harry Holland’s ‘Effing Covid’ painting; a striking image of a nurse clad in personal protective equipment (PPE).

We’re also proud to display a large painting of poppies by artist Rachel Hannah who created this striking piece of art for Patient Experience Lead Digital Narrator, Jayne Catherall in remembrance of her mother.

Also on display are artist and Health Charity Patron, Nathan Wyburn’s portraits used to highlight and promote important awareness days. They are of Hollywood stars Billy Porter, MJ Rodriguez, Callum Scott Howells, and Mark Ashton, and they represent Pride, World Aids Day, and HIV Testing Week.

To the right we have an oil painting titled ‘Embrace’ from artist Kevin Williams whose compelling image is inspired by the COVID-19 pandemic, Black Lives Matter protests, and the political and ethical responses to those protests.

Lastly, we have a piece of artwork so large, it curves around the wall! From Beth Morris Workshops, over 55 children were tasked to create a playground experience that mattered to them in conjunction with the launch of ‘Magnificent Meadows’; an initiative from several partnerships to create walking routes at Heath Park.

Our aim with this artwork and the new vinyls is to provide a safe, calming space for patients, visitors, and staff to enjoy; whether that’s to provide a welcome distraction from anxieties, for a moment of reflection, or for a well-earned break, we hope to care for your health and wellbeing.

If you’d like to read more about the art mentioned here, please visit cardiffandvale.art/news. If you’d like to donate to our Arts fund or contribute artwork, please email fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Celf yn llenwi prif goridor Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi comisiynu sawl darn mawr o waith celf sydd bellach yn cael eu harddangos ym mhrif goridor Ysbyty Athrofaol Cymru.

Gyda diolch i’r tîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, rhoddwyd cot ffres o baent ar y waliau a gosodwyd lloriau a goleuadau newydd, gan ganiatáu i’n gwaith celf sefyll allan.

Wrth i chi fynd i mewn i’r prif goridor, i’r chwith fe welwch baentiad yr artist Harry Holland, ‘Effing Covid’; delwedd drawiadol o nyrs yn gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE).

Rydym hefyd yn falch o arddangos paentiad mawr o babïau gan yr artist Rachel Hannah a greodd y darn trawiadol hwn o gelf ar gyfer Jayne Catherall, Arweinydd Profiad y Claf – Adroddwr Digidol, er cof am ei mam.

Mae portreadau yr artist a Noddwr yr Elusen Iechyd, Nathan Wyburn, hefyd yn cael eu harddangos er mwyn amlygu a hyrwyddo diwrnodau ymwybyddiaeth pwysig. Mae’r portreadau o sêr Hollywood Billy Porter, MJ Rodriguez, Callum Scott Howells, a Mark Ashton, ac maent yn cynrychioli Pride, Diwrnod AIDS y Byd ac Wythnos Profi HIV.

I’r dde mae gennym baentiad olew o’r enw ‘Embrace’ gan yr artist Kevin Williams, wedi’i ysbrydoli gan bandemig COVID-19, protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r ymatebion gwleidyddol a moesegol i’r protestiadau hynny.

Yn olaf, mae gennym ddarn o waith celf sydd mor fawr, mae’n troi o amgylch cornel y wal! Yn rhan o Weithdai Beth Morris, cafodd dros 55 o blant y dasg o greu profiad maes chwarae a oedd yn bwysig iddynt ar y cyd â lansiad ‘Gweirgloddiau Gwych’; menter gan sawl partneriaeth i greu llwybrau cerdded ym Mharc y Mynydd Bychan.

Ein nod gyda’r gwaith celf a’r finylau newydd hyn yw cynnig lle diogel a thawel i gleifion, ymwelwyr a staff ei fwynhau; p’un a yw hynny i dynnu sylw oddi ar bryderon, am eiliad o fyfyrio, neu am seibiant haeddiannol iawn, gobeithiwn y gallwn ofalu am eich iechyd a’ch lles.

Os hoffech ddarllen mwy am y gwaith celf y sonnir amdano yma, ewch i cardiffandvale.art/news. Os hoffech gyfrannu at ein Cronfa’r Celfyddydau neu roi gwaith celf, e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Leave a Reply