The Hearth Gallery are delighted to present the new Plaza exhibition – ‘Colour in a Dark World’ by Hilary Griffiths. In her work, Hilary explores the themes of colour, nature and relationships through photography, printmaking and painting.

The displayed triptych was previously shown in an exhibition responding to the Covid-19 pandemic – ‘Art in Isolation’ at Art Central. In these pieces, Hilary explored the new reality of living with Covid.

What comes through in my work is what makes me up – the ‘core me’ – from an early age, this has always been my love of colour. The playfulness between colours, and the excitement that colour brings. My love for colour is expressed in every aspect of my life whether it be clothes, flowers or my paintings.

Love of nature is another predominant theme in my paintings, as I have always had a fascination with nature. This interest is sometimes used symbolically to describe family relationships through birds, nests and eggs. The Watercolour called ‘Fallen Beauty’ (originally called ‘Flora and Fauna’ as it’s about nature and also family relationships) was created after my sister and I had a massive rift in our relationship. I do not know much about relationships, so I did what I always do – I painted a picture for her that somehow describes her. She is gentle and feminine like a watercolour painting.

Another aspect of my work is the Sun. I have an alliance with the sun, and I am very drawn to it. I race out at the crack of dawn to capture the sun at its freshest and most beautiful.

J.M.W.Turner’s last words were ‘Sun is God’. I am not sure if I believe this but he certainly transcribed this beautifully in his art.

– Hilary Griffiths, 2022

The Colour in a Dark World exhibition will run until 18th July 2022.

For more information about the Arts for Health and Wellbeing programme, please visit www.cardiffandvale.art and our social media pages on Facebook and Twitter @CAVuhbArts and Instagram @thehearthgallery

If you require further information or to purchase any of the artworks on show, or would like to be included in future exhibitions please contact: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk

Colour in a Dark World – Arddangosfa gan Hilary Griffiths

Mae Oriel yr Aelwyd yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa newydd y Plaza – ‘Lliw mewn Byd Tywyll’ gan Hilary Griffiths. Yn ei gwaith, mae Hilary yn archwilio themâu lliw, natur a chydberthnasau drwy ffotograffiaeth, creu printiau a pheintio.

Dangoswyd y triptych sy’n cael ei arddangos mewn arddangosfa flaenorol a oedd yn ymateb i’r pandemig Covid-19 – ‘Art in Isolation’ yn Art Central. Yn y darnau hyn, archwiliodd Hilary y realiti newydd o fyw gyda Covid.

Yr hyn sy’n amlwg yn fy ngwaith yw’r hyn sy’n rhan sylfaenol ohonof – fy ‘nghraidd’ – o oedran cynnar, fy nghariad at liw oedd hyn. Y natur chwareus rhwng lliwiau, a’r cyffro a ddaw yn sgil lliw. Mynegir fy nghariad at liw ym mhob agwedd ar fy mywyd boed yn ddillad, blodau neu fy mhaentiadau.

Mae cariad at fyd natur yn brif thema arall yn fy mhaentiadau, gan fy mod bob amser wedi rhyfeddu at natur. Weithiau defnyddir y diddordeb hwn yn symbolaidd i ddisgrifio cydberthnasau teuluol drwy adar, nythod ac wyau. Crëwyd y Dyfrlliw o’r enw ‘Fallen Beauty’ (a elwid yn wreiddiol yn ‘Flora and Fauna’ gan ei fod yn ymwneud â natur a hefyd cydberthnasau teuluol) ar ôl i fy chwaer a minnau brofi rhwyg enfawr yn ein perthynas. Nid wyf yn gwybod llawer am gydberthnasau, felly fe wnes i’r hyn yr wyf bob amser yn ei wneud – paentiais lun iddi sydd rywsut yn ei disgrifio. Mae hi’n dyner ac yn fenywaidd fel paentiad dyfrlliw.

Agwedd arall ar fy ngwaith yw’r Haul. Mae gennyf gyswllt â’r haul, ac mae’n apelio’n fawr ataf. Rwy’n rhuthro allan ar doriad gwawr i weld yr haul pan fydd ar ei harddaf

Geiriau olaf J.M.W.Turner oedd ‘Yr Haul yw Duw’. Nid wyf yn siŵr a wyf yn credu hyn ond mae’n sicr wedi trawsgrifio hyn yn hardd yn ei waith celf.

– Hilary Griffiths, 2022

Bydd yr arddangosfa Lliw mewn Byd Tywyll yn rhedeg tan 18 Gorffennaf 2022.

Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i www.cardiffandvale.art a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter @CAVuhbArts ac Instagram @thehearthgallery

I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf, neu os hoffech chi gael eich cynnwys yn arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: Magda.Lackowska@wales.nhs.uk

Leave a Reply