
This artwork was created by Beth Morris Workshop students to celebrate the launch of the Meadows Health and Wellbeing Route.
The Meadows Health and Wellbeing Route connects the University Hospital of Wales to the meadows at Heath Park. This beautiful green space is available for staff, patients, visitors, and the wider community to unwind, and enjoy being among meadow plants and animals.
This project is part of Magnificent Meadows Cymru, a programme funded by the Welsh Government that is working to restore over 500 hectares of wildflower meadows and grassland in Wales, while connecting communities to these environments for their own health and wellbeing.
For a virtual tour of the Heath Park Meadows Health and Wellbeing Route, click here.
To explore the Heath Park Meadows Health and Wellbeing Route interpretation board, click here.
The children of Beth Morris Workshops (aged 6-16) have been imagining a world where they are tiny and the usually small, sometimes yet to be discovered, meadow wildlife is suddenly huge. They have drawn scenes of play and relaxation in an imaginary natural playground.
The truth is though, that this playground and area for mindful moments is not part of their imaginations. It’s really out there.


Dychmygwch pe bai gennym rywle hyfryd i fynd iddo…

Crëwyd y gwaith celf hwn gan fyfyrwyr Gweithdy Beth Morris i ddathlu lansiad Llwybr Iechyd a Lles Dolydd.
Mae Llwybr Iechyd a Lles Dolydd yn cysylltu Ysbyty Athrofaol Cymru â’r dolydd ym Mharc y Mynydd Bychan. Mae’r man gwyrdd hardd hwn ar gael i staff, cleifion, ymwelwyr, a’r gymuned ehangach i ymlacio, a mwynhau bod ymhlith planhigion ac anifeiliaid y ddôl.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o ‘Gweirgloddiau Gwych Cymru’, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio ar adfer dros 500 hectar o ddolydd blodau gwyllt a glaswelltir yng Nghymru, tra’n cysylltu cymunedau â’r amgylcheddau hyn er budd eu hiechyd a’u lles eu hunain.
I gael taith rithwir o Lwybr Iechyd a Lles Dolydd Parc y Mynydd Bychan, cliciwch yma.
I archwilio bwrdd dehongli a map Llwybr Iechyd a Lles Dolydd Parc y Mynydd Bychan, cliciwch yma.
Mae’r plant sy’n mynychu Gweithdai Beth Morris (6-16 oed) wedi bod yn dychmygu byd lle maen nhw’n fach iawn o ran maint ac mae bywyd gwyllt y ddôl, sydd fel arfer yn fach ac weithiau yng nghudd, yn anferth.
Maent wedi darlunio golygfeydd o chwarae ac ymlacio mewn maes chwarae naturiol dychmygol. Ond y gwir yw nad yw’r maes chwarae a’r ardal i fyfyrio hon yn rhan o’u dychymyg. Mae’n bodoli go iawn.

