Lisa-Marie Mansfield will be taking part in the Wizz Air Cardiff Half Marathon on Sunday 2nd October 2022 to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme at Cardiff & Vale Health Charity.

Lisa-Marie is currently working with the Arts for Health and Wellbeing Programme on the Arts Council of Wales funded project Cardiff Royal Infirmary; People Place Future where she has introduced multiple photography projects and exhibitions centred around reflecting the site’s current Health Board staff.
“This year I have decided to raise money for the Arts for Health and Wellbeing Programme by running the Cardiff Half Marathon. As most people know, visual arts has always been a passion of mine from a young age and has given me the strength to find myself. My mental health took a turn back when I was in high school when I experienced my first anxiety attack and now at 27 can still be quite challenging but I found through photography a way to manage.
Photography became my comfort pillow, I would photograph anything and everything to feel safe and to feel at ease and this is where I strongly believe any form of art can be incredibly therapeutic and improve a person’s health and wellbeing, evidence shows that art can reduce stress and anxiety levels and from personal experience this is what it has done for me.
I have been working freelance for the Arts for Health and Wellbeing Programme since September 2021 as their Photographer. The Programme offers so much support to staff members, patients and to the whole community in Cardiff and Vale. I want to fundraise as much money as I can for the Arts for Health and Wellbeing Programme for so many reasons! But the most important reason for me is because Arts for Health and Wellbeing as a whole needs more recognition and appraisal, it has so much success and potential with changing and improving lives as evidently shown through studies.
This Programme means a lot to me and I know it will/does mean a lot to others. It is so empowering and I am proud to be the first person to run the Cardiff Health Marathon for the Programme, Arts for Health and Wellbeing.”
-Lisa-Marie Mansfield
The Arts for Health and Wellbeing team would like to say a huge thank you to Lisa-Marie for choosing to raise funds for the programme and wish her the best of luck with her training in the coming months.
If you would like to support Lisa-Marie, please consider making a donation through her JustGiving Page: https://www.justgiving.com/fundraising/lisa-marie-mansfield/
If Lisa-Marie’s story has inspired you to take on a challenge to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme, please contact fundraising.cav@wales.nhs.uk or sign up to an event on the Health Charity website and select the Arts for Health and Wellbeing Programme as the area you would like to support on the registration form: https://healthcharity.wales/events/
Bydd Lisa-Marie Mansfield yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air ddydd Sul 2 Hydref 2022 i godi arian i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Ar hyn o bryd, mae Lisa-Marie yn gweithio gyda Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ar brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd; Pobl Lle Dyfodol. Mae hi wedi cyflwyno nifer o brosiectau ffotograffiaeth ac arddangosfeydd sy’n canolbwyntio ar adlewyrchu staff presennol y Bwrdd Iechyd.
“Eleni, rwyf wedi penderfynu codi arian i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd. Fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, rydw i wedi bod yn frwd am y celfyddydau gweledol o oedran ifanc ac mae wedi rhoi’r nerth i mi ganfod fy hun. Gwaethygodd fy iechyd meddwl yn yr ysgol uwchradd pan brofais fy mhwl o orbryder cyntaf. Rwyf bellach yn 27 oed a gall fod yn eithaf heriol o hyd, ond fe wnes i ddarganfod ffordd o’i reoli trwy ffotograffiaeth.
Ffotograffiaeth oedd fy nghysur; byddwn yn tynnu lluniau o unrhyw beth a phopeth i deimlo’n ddiogel ac i deimlo’n gartrefol ac rwy’n credu’n gryf y gall unrhyw fath o gelf fod yn hynod therapiwtig a gwella iechyd a lles person. Mae tystiolaeth yn dangos y gall celf leihau lefelau straen a gorbryder ac, o brofiad personol, dyma mae wedi’i wneud i mi.
Rwyf wedi bod yn gweithio’n llawrydd fel Ffotograffydd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ers mis Medi 2021. Mae’r Rhaglen yn cynnig cymaint o gymorth i aelodau staff, cleifion a’r gymuned gyfan yng Nghaerdydd a’r Fro. Hoffwn godi cymaint o arian â phosibl i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles am gymaint o resymau! Ond y rheswm pwysicaf yw oherwydd bod angen mwy o gydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad ar y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn gyffredinol. Mae’r rhaglen yn hynod lwyddiannus ac mae ganddi gymaint o botensial i newid a gwella bywydau fel y gwelwn yn amlwg drwy astudiaethau.
Mae’r Rhaglen hon yn golygu llawer i mi ac rwy’n gwybod ei bod/y bydd yn golygu llawer i eraill. Mae mor rymusol ac rwy’n falch o fod y person cyntaf i redeg Hanner Marathon Caerdydd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.”
– Lisa-Marie Mansfield
Hoffai tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ddiolch o galon i Lisa-Marie am ddewis codi arian i’r rhaglen a dymuno pob lwc iddi gyda’i hyfforddiant yn ystod y misoedd nesaf.
Os hoffech gefnogi Lisa-Marie, ystyriwch wneud cyfraniad trwy ei thudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/fundraising/lisa-marie-mansfield/
Os yw stori Lisa-Marie wedi eich ysbrydoli i ymgymryd â her i godi arian i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk neu cofrestrwch i gymryd rhan mewn digwyddiad ar wefan yr Elusen Iechyd a dewiswch Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles fel yr adran yr hoffech chi ei chefnogi ar y ffurflen gofrestru: https://healthcharity.wales/events/