We are delighted to share the story of People Experience Lead – Digital Narrator and regular fundraiser for Cardiff & Vale Health Charity, Jayne Catherall, who has kindly commissioned a piece of remembrance artwork from Artist, Rachel Hannah with funds raised from her latest challenge, the London Marathon 2021.

Jayne chose to commission the artwork with a poppy theme to reflect both the remembrance associated with the flower and the joy poppies brought to her Mum, June.

“Poppies hold a special place in my heart, and with many others, as symbol of remembrance.

My Mum June sadly passed away in November 2001 from breast cancer aged 59. Poppies were her favourite flower. She wore scarves with poppies on, she wore poppy broaches, drank from poppy mugs and a print of the Poppy Fields by Vincent Van Gogh hung over our fireplace for all of my life.

I had been fundraising for the London Marathon in 2021 for Cardiff & Vale Health Charity and I thought it would be lovely to commission some art from the funds raised to remember her and for the many others who have died from breast cancer.

I thought that Rachel Hannah would be perfect to commission to produce this art as she specialises in beautiful abstract meadow art scenes featuring poppies and other wildflowers, drawing inspiration from artist such as Pollock and Matisse.”

-Jayne Catherall, People Experience Lead – Digital Narrator

The artwork is on display in the main corridor of University Hospital Wales, where June’s vibrancy and love of poppies will be shared with patients, staff and visitors for years to come.

For information about the range of Bereavement services offered at Cardiff and Vale University Health Board, please visit: http://www.cavuhb.nhs.wales/our-services/bereavement-services

If you are interested in commissioning or gifting an artwork for one of our hospital sites in memory or appreciation of someone special, please contact fundraising.cav@wales.nhs.uk

Rydym yn falch o rannu stori Jayne Catherall, Arweinydd Profiad y Bobl – Adroddwr Digidol sy’n codi arian yn rheolaidd ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ac sydd wedi bod yn garedig iawn yn comisiynu darn o waith celf coffa gan yr Artist, Rachel Hannah, gyda’r arian a godwyd o’i her ddiweddaraf, Marathon Llundain 2021.

Dewisodd Jayne gomisiynu’r gwaith celf oedd â thema pabi i adlewyrchu’r coffâd sy’n gysylltiedig â’r blodyn a’r llawenydd a ddaeth y blodau i’w mam, June.

“Mae gan flodau pabi le arbennig yn fy nghalon, ac maent yn bwysig i lawer o bobl eraill, fel symbol o goffâd.

Yn anffodus bu farw fy mam, June ym mis Tachwedd 2001 o ganser y fron yn 59 oed. Pabi oedd ei hoff flodyn. Roedd hi’n gwisgo sgarffiau gyda phatrwm pabi arnynt, roedd hi’n gwisgo broitshys pabi, yn yfed o fygiau pabi ac roedd print o’r Poppy Fields gan Vincent Van Gogh yn hongian dros ein lle tân ar hyd fy oes.

Roeddwn wedi bod yn codi arian ar gyfer Marathon Llundain yn 2021 ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a meddyliais y byddai’n hyfryd comisiynu gwaith celf o’r arian a godwyd i’w chofio hi a’r llu o rai eraill sydd wedi marw o ganser y fron.

Credais y byddai Rachel Hannah yn berffaith i’w chomisiynu i gynhyrchu’r gwaith celf hwn gan ei bod yn arbenigo mewn golygfeydd celf dolydd haniaethol hardd, yn cynnwys blodau pabi a blodau gwyllt eraill, a’i hysbrydoliaeth yw artistiaid fel Pollock a Matisse.”

– Jayne Catherall, Arweinydd Profiad y Bobl – Adroddwr Digidol

Mae’r gwaith celf yn cael ei arddangos ym mhrif goridor Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bydd bywiogrwydd June a’i chariad at flodau pabi yn cael ei rannu gyda chleifion, staff ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.

I gael gwybodaeth am yr ystod o wasanaethau Profedigaeth a gynigir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i: http://www.cavuhb.nhs.wales/our-services/bereavement-services

Os oes gennych ddiddordeb mewn comisiynu, neu roi gwaith celf yn anrheg ar gyfer un o safleoedd ein hysbytai er cof neu werthfawrogiad am rywun arbennig, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Leave a Reply