Mental Health Awareness Week spans from Sunday 9th – Sunday 15th May. On Friday 13th at 10:59am we’ll be joining the Duke and Duchess of Cambridge by taking a Mental Health Minute. Our Arts for Health and Wellbeing Programme commissioned Charity Patron and Artist Nathan Wyburn to create a bespoke piece of artwork, which can be seen in Hafan Y Coed, University Hospital Llandough.
Nathan created this self portrait using his own Sertraline prescription packaging. This is what he had to say on the project;
“Over the past few months I’ve been saving my empty prescription packaging and decided to make his portrait to help erase the stigma around mental health.
“Let’s talk, let’s be there for each other. We are living in a pressure container of a world right now where there is so much negativity and that’s a lot to deal with.
“I would just like to ask you if you are suffering with mental health to talk about it, if not to friends and family, then go to your GP and maybe you can get some help like I did.
“It’s helped me a lot as a person and as an artist. I hope that this piece of artwork explains that to you. I’m very proud of this work and I’m proud of myself for taking that leap and getting help.”
If you would like to donate a piece of artwork, please contact Bex Betton at bex.betton@wales.nhs.uk or if you would like to fundraise for a ward or department please contact our Fundraising Team on fundraising.cav@wales.nhs.uk

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng dydd Sul 9 – dydd Sul 15 Mai. Ddydd Gwener 13 Mai am 10:59am, byddwn yn ymuno â Dug a Duges Caergrawnt i gymryd rhan mewn Munud Iechyd Meddwl. Comisiynodd Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Noddwr yr Elusen a’r Artist Nathan Wyburn i greu darn o waith celf pwrpasol, y gellir ei weld yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Hunan-Bortread Sertraline
Creodd Nathan yr hunanbortread hwn gan ddefnyddio ei becynnau presgripsiwn Sertraline. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud am y prosiect;
“Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn cadw fy mhecynnau presgripsiwn gwag ac wedi penderfynu gwneud y portread hwn er mwyn helpu i ddileu’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
“Gadewch i ni siarad, gadewch i ni fod yno i’n gilydd. Rydym yn byw mewn byd lle mae cymaint o bwysau a negyddoldeb ar hyn o bryd ac mae hynny’n llawer i ymdopi ag ef.
“Hoffwn ofyn i chi, os ydych yn dioddef gyda’ch iechyd meddwl, i siarad amdano, os nad ydych am wneud hynny gyda ffrindiau a theulu, yna ewch at eich meddyg teulu ac efallai y gallwch gael rywfaint o help fel y gwnes i.
“Mae wedi fy helpu i’n fawr fel person ac fel artist. Rydw i’n gobeithio bod y darn hwn o waith celf yn egluro hynny i chi. Rydw i’n falch iawn o’r gwaith hwn ac rydw i’n falch o fy hun am gymryd y cam hwnnw a gofyn am gymorth.”
Os hoffech gyfrannu darn o waith celf, cysylltwch â Bex Betton drwy e-bostio bex.betton@wales.nhs.uk neu os hoffech godi arian ar gyfer ward neu adran, cysylltwch â’n Tîm Codi Arian ar fundraising.cav@wales.nhs.uk
