To improve the environment for patients visiting Cardiff and Vale Health Inclusion Service (CAVHIS) at Cardiff Royal Infirmary, the Arts for Health and Wellbeing Programme commissioned an array of artwork, some of which were kindly supported by monies provided by NHS Charities Together, to be put on display for all to see. The collection includes a unique piece of glass work from Gray Glass which celebrates the evolution of what was the Cardiff Health Access Practice (CHAPS) into the new service CAVHIS, plus murals specifically designed for the waiting areas.
Dr Ayla Cosh, Clinical Director of Cardiff and Vale Health Inclusion Service said, “The new artwork has transformed the blank walls of the CAVHIS, helping to create a waiting room which is warm and welcoming. We were keen that the artwork reflected our aim that individuals all over the world, passing through the department, felt valued and respected. The way that different languages spoken by the service users have been woven into some of the artwork along with very familiar mural images of Cardiff has been a lovely way to symbolise the bringing together of people and cultures. We are really grateful to the Arts for Health and Wellbeing programme and Cardiff & Vale Health Charity and many others for their work in this project and hope it brings a smile to those who visit the department.”

More recently, Haf Weighton has completed the Sound of my Voice piece which was created during weekly sessions at Oasis Refugee Centre in Splott, in Autumn 2021.
Haf said, “I am a fluent Welsh speaker. I grew up in Cardiff, but have lived in many different parts of the world before settling in London and working in an inner London school as an art and photography teacher. Returning to Wales after a gap of over 20 years in 2015 has given me the opportunity to perceive my home with new eyes. I view my mother tongue from a different perspective, and the idea of home combined with the culture and history of Wales has become the inspiration behind my work.
“In this piece, words of welcome in many languages, dialects and using different types of characters were created mainly by men visiting the centre. I felt that the mindful process of stitching encouraged discussion and interaction, often with people who didn’t speak the same languages as me. Whilst stitching I heard the emotional and powerful stories of why people had come to Wales and they talked about the future they hoped to have here.
“I hope the piece sends a powerful message of welcome to people who have just found themselves in Wales or as Oasis’ strapline states, ‘A warm Welsh welcome’.”

You can view all these pieces at Cardiff Royal Infirmary, in the Cardiff and Vale Health Inclusion Service.
Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro
Er mwyn gwella’r amgylchedd i gleifion sy’n ymweld â Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (CAVHIS) yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, comisiynodd Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles amrywiaeth o ddarnau o waith celf i’w harddangos i bawb eu gweld. Mae’r casgliad yn cynnwys darn unigryw o waith gwydr gan Gray Glass sy’n dathlu esblygiad y Practis Mynediad i Ofal Iechyd Caerdydd (CHAPS) gynt i’r gwasanaeth CAVHIS newydd, ynghyd â murluniau a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer yr ardaloedd aros.
Dywedodd Dr Ayla Cosh, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro, “Mae’r gwaith celf newydd wedi trawsnewid waliau gwag CAVHIS, gan helpu i greu ystafell aros sy’n gynnes ac yn groesawgar. Roeddem yn awyddus i’r gwaith celf adlewyrchu ein nod, sef bod unigolion o bob rhan o’r byd sy’n ymweld â’r adran yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae’r ffordd y mae’r gwahanol ieithoedd a siaredir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi’u plethu i rai darnau o’r gwaith celf, ynghyd â delweddau cyfarwydd iawn o Gaerdydd ar furlun, wedi bod yn ffordd hyfryd o symboleiddio’r broses o ddod â phobl a diwylliannau at ei gilydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a sawl un arall am eu gwaith ar y prosiect hwn ac rydym yn gobeithio y daw â gwên i’r rhai sy’n ymweld â’r adran.”

Yn fwy diweddar, mae Haf Weighton wedi cwblhau’r darn Sŵn fy Llais (Sound of my Voice) a grëwyd yn ystod sesiynau wythnosol yng Nghanolfan Ffoaduriaid Oasis yn y Sblot, yn hydref 2021.
Meddai Haf, “Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl. Cefais fy magu yng Nghaerdydd, ond rwyf wedi byw mewn sawl rhan wahanol o’r byd cyn ymgartrefu yn Llundain a gweithio mewn ysgol yng nghanol Llundain fel athro celf a ffotograffiaeth. Mae dychwelyd i Gymru yn 2015, ar ôl bwlch o dros 20 mlynedd, wedi rhoi’r cyfle i mi weld fy nghartref fy hun trwy lygaid newydd. Rwy’n gweld fy mamiaith o safbwynt gwahanol, ac mae’r syniad o gartref ynghyd â diwylliant a hanes Cymru wedi ysbrydoli fy ngwaith.
“Yn y darn hwn, cafodd y geiriau o groeso mewn amrywiaeth o ieithoedd, tafodieithoedd a gan ddefnyddio gwahanol fathau o arwyddnodau eu creu yn bennaf gan ddynion a oedd yn ymweld â’r ganolfan. Roeddwn i’n teimlo bod y broses ofalus o bwytho yn annog trafodaeth a rhyngweithio, yn aml gyda phobl nad oeddent yn siarad yr un ieithoedd â fi. Wrth bwytho, clywais straeon emosiynol a phwerus ynghylch pam yr oedd pobl wedi dod i Gymru ac roeddent yn siarad am y dyfodol yr oeddent yn gobeithio ei gael yma.
“Rwy’n gobeithio bod y darn yn anfon neges bwerus o groeso i bobl sydd newydd gyrraedd Cymru, neu fel y dywed arwyddair Oasis, ‘Croeso cynnes Cymreig’.”

Gallwch weld yr holl ddarnau hyn yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, yng Ngwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro.