
The Hearth Gallery is delighted to present the new Plaza exhibition – Creative Canopies: Stories of Nature and Heritage.
Creative Canopies: Stories of Nature and Heritage is an exciting collaboration between students on the BA (Hons) Creative and Therapeutic Arts degree at University of South Wales and the Assessment and Recovery Unit at Mental Health Services for Older People (MHSOP) at University Hospital Llandough. The groups met online and discussed things that were important to them. Themes included local wildlife, bright colours and television programmes about the natural world. Inspired by the patients’ ideas, the students created a box of crafty activities for the users of the ARU. The resulting patient work then provided stimuli for the students to create this exhibition.




The students, patients and staff also collaborated on the Queen’s Green Canopy initiative which encourages the people of the United Kingdom to “plant a tree for the jubilee” in honour of her Majesty’s 70 years of service. Students at the University of South Wales planted a Hazel tree on the Treforest campus and gifted a flowering Hawthorn for the outside spaces of the Assessment and Recovery Unit.


Following on from this exhibition the MHSOP Assessment and Recovery Unit will also receive a new Creative Activity Sheet from each student. These activities will focus on nature and wellbeing.
This project has been funded by the Arts for Health and Wellbeing Programme and University of South Wales.
Instagram: @creative_and_therapeutic_arts
Twitter: @USW_CTA
The exhibition will run until 6th June 2022.
If you require further information, or would like to be informed about future exhibitionsplease contact: magda.lackowska@wales.nhs.uk
For more updates about the Arts for Health and Wellbeing programme, please visit oursocial media pages on Facebook and Twitter @CAVuhbArts, and Instagram@thehearthgallery.
Canopïau Creadigol: Straeon Natur a Threftadaeth

Mae’n bleser gan Oriel yr Aelwyd gyflwyno arddangosfa newydd y Plaza – Canopïau Creadigol: Straeon Natur a Threftadaeth.
Mae ‘Canopïau Creadigol: Straeon Natur a Threftadaeth’ yn fenter gydweithredol gyffrousrhwng myfyrwyr y radd BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru a’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) yn yr Uned Asesu ac Adfer yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Bu’r grwpiau yn cyfarfod ar-lein ac yn trafodpethau a oedd yn bwysig iddynt. Roedd y themâu yn cynnwys bywyd gwyllt lleol, lliwiaullachar a rhaglenni teledu am y byd naturiol. Wedi’u hysbrydoli gan syniadau’r cleifion,creodd y myfyrwyr flwch o weithgareddau crefft ar gyfer defnyddwyr yr ARU. Roedd ygwaith a wnaed gyda’r cleifion yn symbyliad i’r myfyrwyr greu’r arddangosfa hon.




Bu’r myfyrwyr, y cleifion a’r staff hefyd yn cydweithio ar fenter Canopi Gwyrdd y Frenhinessy’n annog pobl y Deyrnas Unedig i “blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî” i anrhydeddu 70mlynedd o wasanaeth Ei Mawrhydi. Plannodd myfyrwyr Prifysgol De Cymru goeden gyll argampws Trefforest a rhoi draenen wen flodeuol fel rhodd ar gyfer ardaloedd allanol yr Uned Asesu ac Adfer.


Yn dilyn yr arddangosfa hon bydd Uned Asesu ac Adfer MHSOP hefyd yn derbyn Taflen Gweithgareddau Creadigol newydd gan bob myfyriwr. Bydd y gweithgareddau hyn yncanolbwyntio ar natur a lles.
Ariannwyd y prosiect hwn gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a Phrifysgol DeCymru.
Instagram: creative_and_therapiwtic_arts
Twitter: @USW_CTA
Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan 6 Mehefin 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech gael gwybod am arddangosiadau’r dyfodol,cysylltwch â: magda.lackowska@wales.nhs.uk
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i’ntudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter @CAVuhbArts ac Instagram@thehearthgallery.