The Arts for Health and Wellbeing Team and Cardiff & Vale Health Charity are delighted to receive a kind donation of three paintings from celebrated artist, Jill Baird.

Jill Baird grew up in North Wales and moved to Ireland in 1982 where she lived until 2016. In 1994, she had Acute Myeloid Leukaemia and was in isolation in hospital for 6 months.  She painted and wrote about this experience and published ‘Becoming The Tree’ about how the experience had affected her and changed her perspective on life.  After working as an artist and art therapist, she is now retired and living near her family in South Wales.  Jill also contracted sepsis in 2019 and was treated at the Heath in Cardiff, where she found the care to be excellent.

‘Age – Margam Park’ by Jill Baird

The three paintings given to the Hearth Gallery are part of a collection based on places locally that interested her on her explorations, and which was also about the incursion of the geometric shapes that we impose on the natural world.  Here the shapes are formed by paths and the cut edges of lawns.  The paintings were exhibited at the Senedd in Cardiff in 2019, and have been shown in Caerphilly. 

We are extremely grateful to receive these three beautiful works for the Breast Centre at University Hospital Llandough

To find out more about Jill’s artwork including her literary work please visit her website: jillart.ie

If you’re interested in donating an artwork, or would like to inquire about future exhibitions, please contact magda.lackowska@wales.nhs.uk

Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o dderbyn rhodd garedig o dri phaentiad gan yr artist enwog, Jill Baird.

Magwyd Jill Baird yng Ngogledd Cymru a symudodd i Iwerddon yn 1982 lle bu’n byw tan 2016. Yn 1994, cafodd Lewcemia Myeloid Acíwt a bu’n rhaid iddi ynysu yn yr ysbyty am 6 mis.  Peintiodd ac ysgrifennodd am y profiad hwn a chyhoeddodd ‘Becoming The Tree’ am sut roedd y profiad wedi effeithio arni a newid ei safbwynt ar fywyd.  Ar ôl gweithio fel artist a therapydd celf, mae hi bellach wedi ymddeol ac yn byw ger ei theulu yn Ne Cymru.  Yn ogystal, cafodd Jill sepsis yn 2019 a chafodd driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle cafodd ofal a oedd yn rhagorol yn ei barn hi.

‘Age – Margam Park’ gan Jill Baird

Mae’r tri phaentiad a roddwyd i Oriel yr Aelwyd yn rhan o gasgliad yn seiliedig ar leoedd lleol a oedd o ddiddordeb iddi yn ystod ei harchwiliadau, ac roedd hefyd yn ymwneud ag ymosodiad y siapiau geometrig yr ydym yn eu gosod ar y byd naturiol.   Yma mae’r siapiau wedi’u ffurfio gan lwybrau ac ymylon toredig gerddi.  Arddangoswyd y paentiadau yn y Senedd yng Nghaerdydd yn 2019, ac fe’u dangoswyd yng Nghaerffili. 

Rydym yn hynod ddiolchgar i dderbyn y tri darn o waith hardd hyn ar gyfer Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau

I gael gwybod mwy am waith celf Jill gan gynnwys ei gwaith llenyddol, ewch i’w gwefan: jillart.ie

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi gwaith celf, neu os hoffech holi am arddangosfeydd yn y dyfodol, cysylltwch â magda.lackowska@wales.nhs.uk

Leave a Reply