

A new mural was recently completed in the Cardiac Physiology Department by local artist Cathy May, funded by Cardiff & Vale Health Charity’s Cardiac Fund. The project originally started back in February 2020, however when COVID-19 struck, it was put on hold until this month when it came to fruition.
The walls of the Cardiac Physiology Department are now adorned with a beautiful illustration of a heart, with vines, leaves and other foliage coming out of the arteries. It can be compared to the Cardiac Physiology Team’s commitment to saving lives of patients with heart disease.

Cathy May is a Cardiff-based artist, who’s main mediums are printmaking and painting. She accepts various commissions and sells prints and patches on her Etsy site, and in local makers markets.
Cathy May said: “I really enjoyed bringing this mural to life, and hope the patients and staff members find a sense of peace, calm and nurturing from these botanical hearts. I applied colour therapy theory when painting to create the right mood and environment. It was really encouraging to hear the positive responses to the artwork as I was working – It makes it all worthwhile.”

Thank you so much to Cathy for brightening up the Cardiac Physiology Department!
To buy Cathy May’s prints and patches, please visit her Etsy page: https://www.etsy.com/uk/shop/VivaLaMay
And you can keep up to date with her work on Instagram (@vivalamay_art) and Facebook (https://www.facebook.com/vivalamay13).
If you would like to find out more about how you can transform the look of your department, please email fundraising.cav@wales.nhs.uk
Murlun Cathy May yn llonni’r Adran Ffisioleg Gardiaidd


Cwblhawyd murlun newydd yn yr Adran Ffisioleg Gardiaidd yn ddiweddar gan yr artist lleol Cathy May, a ariannwyd gan Gronfa Gardiaidd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Dechreuodd y prosiect yn wreiddiol yn ôl ym mis Chwefror 2020, ond pan darodd COVID-19, cafodd ei ohirio tan nawr ac mae bellach wedi’i gyflawni.
Mae waliau’r Adran Ffisioleg Gardiaidd wedi’u haddurno â darlun hardd o galon, gyda gwinwydd, dail a rhagor o ddeiliant yn dod allan o’r rhydwelïau. Gellir ei gymharu ag ymrwymiad y Tîm Ffisioleg Gardiaidd i achub bywydau cleifion sydd â chlefyd y galon.

Artist o Gaerdydd yw Cathy May, a’i phrif gyfryngau yw creu printiau a phaentio. Mae hi’n derbyn comisiynau amrywiol ac yn gwerthu printiau a chlytiau ar ei safle Etsy, ac mewn marchnadoedd gwneuthurwyr lleol.
Dywedodd Cathy May: “Mwynheais ddod â’r murlun hwn yn fyw, a gobeithio y bydd y cleifion ac aelodau’r staff yn dod o hyd i ymdeimlad o heddwch, tawelwch a chysur o’r calonnau botanegol hyn. Defnyddiais theori therapi lliw wrth baentio i greu’r hwyl a’r amgylchedd cywir. Roedd yn galonogol iawn clywed yr ymatebion cadarnhaol i’r gwaith celf wth i mi weithio – mae’n gwneud y cyfan yn werth chweil.”

Diolch yn fawr iawn i Cathy am lonni’r Adran Ffisioleg Gardiaidd!
I brynu printiau a chlytiau Cathy May, ewch i’w thudalen Etsy: https://www.etsy.com/uk/shop/VivaLaMay
A gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith ar Instagram (@vivalamay_art) a Facebook (https://www.facebook.com/vivalamay13).
Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut i weddnewid eich adran, e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk