We are delighted to welcome the new Staff Room exhibition which displays a series of paintings by Hiralal Hirani. They depict calming landscapes, still lives and Hindu Gods. Hiralal decided to follow his passion for the arts during the COVID-19 lockdown, and has been developing his skills, and enjoying the therapeutic effects of painting ever since.

“I have always had an interest in art from a very young age, but never found the opportunity to paint. When I moved to the United Kingdom, I didn’t have time due to my full-time job and taking care of my family.

I am still working, but the COVID-19 lockdown gave me an inspiration to create art again. Since then, I have flourished more and more, and have continued to paint on stretched canvas. I have been painting since March 2021, and I have really enjoyed doing the process. I find it really relaxing and calming. 

It’s been challenging finding the time to paint, but really exciting to see what the outcome will look like. I have also done several sketches, as I was intrigued to see what my skills are like in that area.  I have received very positive feedback for my artwork, my wife and children were amazed when they saw my first painting on canvas.

I would certainly encourage people with an interest in art or those who have art skills to do these paintings, as it’s really beneficial for their health and wellbeing.

-Hiralal Hirani

The exhibition will run until the 29th June 2022.

If you require further information, would like to purchase any of the artworks on show, or would like to be informed about future exhibitions please contact: magda.lackowska@wales.nhs.uk

For more updates about the Arts for Health and Wellbeing programme, please visit our social media pages on Facebook and Twitter @CAVuhbArts, and Instagram @thehearthgallery.

‘Celfyddydau Creadigol’ – Arddangosfa gan Hiralal Hirani

Rydym yn falch iawn o groesawu arddangosfa newydd yr Ystafell Staff, sy’n gyfres o baentiadau gan Hiralal Hirani. Maent yn darlunio tirweddau tawel, bywydau llonydd a Duwiau Hindŵaidd. Penderfynodd Hiralal archwilio ei ddiddordeb mewn gwaith celf yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, ac mae wedi bod yn datblygu ei sgiliau ac yn mwynhau effeithiau therapiwtig paentio ers hynny.

“Rwyf wedi ymddiddori mewn celf o oedran ifanc iawn, ond erioed wedi canfod y cyfle i baentio. Pan symudais i’r Deyrnas Unedig, doedd gen i ddim amser oherwydd fy swydd amser llawn a gofalu am fy nheulu.

Rwy’n dal i weithio, ond rhoddodd cyfyngiadau symud COVID-19 yr ysbrydoliaeth i mi greu gwaith celf unwaith eto. Ers hynny, rwyf wedi gwella ac wedi parhau i baentio ar ganfas estynedig. Rwyf wedi bod yn paentio ers mis Mawrth 2021, ac rwyf wir wedi mwynhau’r broses. Mae’n gwneud i mi ymlacio a llonyddu.

Mae wedi bod yn heriol dod o hyd i’r amser i baentio, ond yn brofiad hynod gyffrous i weld yr hyn rydw i’n ei greu yn datblygu. Rwyf hefyd wedi gwneud sawl braslun, gan fy mod yn chwilfrydig i weld a oedd gen i ddawn yn y maes hwnnw. Rwyf wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn ar gyfer fy ngwaith celf, roedd fy ngwraig a fy mhlant yn rhyfeddu pan welsant fy llun cyntaf ar ganfas.

Byddwn yn sicr yn annog pobl sydd â diddordeb mewn celf, neu’r rhai sydd â sgiliau celf, i baentio gan ei fod yn fuddiol iawn i’w hiechyd a’u lles.”

-Hiralal Hirani

Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan 29 Mehefin 2022.

I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf sy’n cael eu harddangos, neu os hoffech gael gwybod am arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: magda.lackowska@wales.nhs.uk

Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter @CAVuhbArts ac Instagram @thehearthgallery.

Leave a Reply