The Arts for Health and Wellbeing Team at Cardiff & Vale Health Charity are delighted to announce our first NHS Online Art Auction to raise funds for the Arts for Health and Wellbeing Programme.

All work on display is available as part of the auction and has been kindly donated by local artists who have worked with us over the years, and ones who are new to the Arts for Health and Wellbeing Programme. The donated pieces showcase a diverse range of individual styles, and include work by Harry Holland, Malcolm Murphy, Nathan Wyburn, Jacqueline Alkema and many more incredibly talented artists.



‘It is vital to have a space in the community where anyone could have an opportunity to explore the benefits of creative experience and share it through art. I want to donate this artwork to the NHS to raise funds for Arts for Wellbeing Programme as I hope it will inspire, support, and highlight an importance of art for wellbeing.‘
-Inga K, Artist



‘I consider arts to be a fundamental component of health and wellbeing. I was happy to create this new work both as a focus for my own creativity but also as a way to raise funds for such a worthy cause.‘
-Jo Rigby, Artist
‘Happy to continue to help and support an amazing art charity, you have helped me massively over the years, glad to give something back, to hopefully raise funds to help others too.‘
-Sam Burns, Artist



All funds raised from the auction will go to the Arts for Health and Wellbeing Programme, supporting the team at this vital time to provide patients and staff with creative experiences, environments and opportunities.



The NHS Online Art Auction 2022 will run 21st March 2022 – 2nd May 2022.
Bids must be made online by visiting: http://www.NHS.auction
Thank you to all of the artists who generously donated artwork to this auction.



If would like more information about the auction, or are interested in donating artwork to a future auction, please contact: Bex Betton, Arts Fundraising Support Officer, bex.betton@wales.nhs.uk
If you have any questions about the Hearth Gallery, or would like to be included in future exhibitions, please reach out to: Magda Lackowska, Exhibitions Co-Ordinator, magda.lackowska@wales.nhs.uk



Mae’n bleser gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi ein Harwerthiant Celf Ar-lein y GIG cyntaf i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.



Mae’r holl waith sy’n cael ei arddangos ar gael fel rhan o’r arwerthiant ac mae wedi cael ei roi’n garedig gan artistiaid lleol sydd wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd, a rhai sy’n newydd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles. Mae’r darnau a roddwyd yn arddangos amrywiaeth eang o arddulliau unigol, ac yn cynnwys gwaith gan Harry Holland, Malcolm Murphy, Nathan Wyburn, Jacqueline Alkema a llawer mwy o artistiaid hynod dalentog.

‘Mae’n hanfodol cael lle yn y gymuned lle gallai unrhyw un gael cyfle i archwilio manteision profiad creadigol a’i rannu drwy gelf. Rwyf am roi’r gwaith celf hwn i’r GIG i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gan fy mod yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli, yn cefnogi ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd celf ar gyfer lles.’
-Inga K, Artist


‘Rwy’n ystyried bod y celfyddydau’n elfen sylfaenol o iechyd a lles. Roeddwn yn hapus i greu’r gwaith newydd hwn fel ffocws ar gyfer fy nghreadigrwydd fy hun ond hefyd fel ffordd o godi arian ar gyfer achos mor deilwng.’
-Jo Rigby, Artist


‘Rwy’n hapus i barhau i helpu a chefnogi elusen gelf anhygoel, rydych wedi fy helpu’n aruthrol dros y blynyddoedd, ac rwy’n falch o roi rhywbeth yn ôl, a gobeithio, codi arian i helpu eraill hefyd.’
-Sam Burns, Artist


Bydd 100% o’r arian a godir o’r arwerthiant yn mynd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, gan gefnogi’r tîm ar yr adeg hanfodol hon i roi profiadau, amgylcheddau a chyfleoedd creadigol i gleifion a staff.



Bydd Arwerthiant Celf Ar-lein y GIG 2022 yn cael ei gynnal rhwng 21 Mawrth 2022 – 2 Mai 2022.
Rhaid gwneud cynigion ar-lein drwy fynd i: http://www.NHS.auction
Diolch i’r holl artistiaid a roddodd waith celf i’r arwerthiant hwn yn hael iawn.


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arwerthiant, neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi gwaith celf i arwerthiant yn y dyfodol, cysylltwch â: Bex Betton, Swyddog Cymorth Codi Arian y Celfyddydau, bex.betton@wales.nhs.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Oriel yr Aelwyd, neu os hoffech gael eich cynnwys mewn arddangosfeydd yn y dyfodol, cysylltwch â: Magda Lackowska, Cydlynydd Arddangosfeydd, magda.lackowska@wales.nhs.uk



Hi is the painting of a close up of a wave, predominantly bluey grey in colour still available pls?
Hi Claudine, I have sent you an email regarding this.
Thanks Bex