The Arts for Health and Wellbeing Team at Cardiff & Vale Health Charity are delighted to commission and support a collaborative project between artist Louise Jensen and the 4 Winds Mental Health Resource as part of the joint Arts Council of Wales and The Baring Foundation initiative, Celf a’r Meddwl I Arts and Minds .

This new funding initiative enables the Arts Team to support a network of artists and health professionals to co-create and deliver innovative arts interventions and opportunities for adults in recovery and in need of mental health support, building life-skills and a network of support within our communities.

Working in collaboration with 4 Winds,

Louise began creative arts sessions at the Grange Gardens Bowls Pavilion in December, and has now completed the second phase of the project;

Inspired By…

‘We have just completed our second phase of the project ‘Inspired By..’ in which we are exploring all of those things that inspire us to reach that bit further, those things that breathe life into us. Fuelled by a visit to the Cardiff National Museum we began by creating small matchbox portraits of the people that inspire us, and have more recently been exploring, through different monoprint techniques, the things in nature that we enjoy and take sustenance from.

So far we have had over twenty participants joining in at some point or another and we have had some lovely pieces of work along the way. There is a core group who have been attending nearly every session and over the last month in particular we have managed to build on new skills and explorations week on week.

One of the participants commented on ‘how good it has been to have something different and creative to focus on, to see the creative process of other people and the diversity of what has emerged.’

One of the most important elements of the arts process here is to try to introduce ways of working that absorb and engage us, without too much fear of failure. I try to encourage as best I can a spirit of playfulness and experimentation, with as little worry about outcome as possible. There is always that little voice inside us that wants to criticise ourselves, and compare ourselves unhelpfully to others. By nurturing our ability to see beauty in those small details, that might otherwise be missed, I hope to offer ways in which we can be surprised and gain delightful insights into our own process. To be inspired by ourselves!!

The final part of the project will be running in May.’

-Louise Jensen, Artist

Creative conversations and art sessions are open to all, and are provided on a first come, first served basis. If you would like to join, please email 4 Winds to sign up for sessions: contact@4winds.org.uk

Or please contact Louise Jensen: stiwdio3@gmail.com for more information on her museum visits and workshops.

To learn more about our Cardiff & Vale Health Charity Arts Programme please visit : http://www.cardiffandvale.art

Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gomisiynu a chefnogi prosiect ar y cyd rhwng yr artist Louise Jensen ac Adnoddau Iechyd Meddwl 4 Winds, yn rhan o fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, Celf a’r Meddwl | Arts and Minds.

Mae’r fenter ariannu newydd hon yn galluogi Tîm y Celfyddydau i gefnogi rhwydwaith o artistiaid a gweithwyr iechyd proffesiynol i gyd-greu a chyflwyno ymyrraeth gelfyddydol arloesol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i oedolion sy’n gwella ac sydd angen cymorth iechyd meddwl, adeiladu sgiliau bywyd a rhwydwaith o gefnogaeth o fewn ein cymunedau.

Mae ein prosiect, trwy ‘Celf a’r Meddwl’, yn cysylltu darpariaeth iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd gyda’r gymuned a 4Winds; elusen iechyd meddwl annibynnol, a arweinir gan y defnyddiwr sy’n gweithio ar wella iechyd meddwl a lles yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Wrth weithio ar y cyd â 4 Winds, dechreuodd Louise gynnal sesiynau celfyddydau creadigol ym Mhafiliwn Bowlio Gerddi Grange ym mis Rhagfyr, ac mae hi bellach wedi cwblhau ail gam y prosiect;

Ysbrydolwyd Gan…

Rydym newydd gwblhau ein hail gam o’r prosiect ‘Ysbrydolwyd Gan…’ lle rydym yn archwilio’r holl bethau hynny sy’n ein hysbrydoli i gyrraedd gam ymhellach, y pethau hynny sy’n rhoi bywyd i ni. Wedi’i sbarduno gan ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, dechreuom drwy greu portreadau blwch matsis bach o’r bobl sy’n ein hysbrydoli, ac yn fwy diweddar rydym wedi bod yn archwilio’r pethau mewn natur yr ydym yn eu mwynhau ac sy’n ein cynnal drwy wahanol dechnegau monoprint.

Hyd yn hyn, rydym wedi cael dros ugain o gyfranogwyr yn ymuno ar ryw adeg neu’i gilydd ac rydym wedi gweld darnau hyfryd o waith ar hyd y daith. Mae grŵp craidd wedi bod yn mynychu bron pob sesiwn a dros y mis diwethaf yn benodol rydym wedi llwyddo i ddatblygu sgiliau ac archwiliadau newydd o wythnos i wythnos.

Soniodd un o’r cyfranogwyr am ‘ba mor dda oedd cael rhywbeth gwahanol a chreadigol i ganolbwyntio arno, i weld proses greadigol pobl eraill ac amrywiaeth yr hyn sydd wedi dod ohono.’

Un o elfennau pwysicaf y broses greu yma yw ceisio cyflwyno ffyrdd o weithio sy’n cynnal ein diddordeb, heb ormod o ofn methu. Rwy’n gwneud fy ngorau i annog ysbryd o fod yn chwareus ac arbrofi, gyda chyn lleied o bryder am y canlyniad â phosibl. Mae’r llais bach hwnnw y tu mewn i ni bob amser sydd eisiau i ni feirniadu ein hunain, a chymharu ein hunain ag eraill, sydd ddim o fudd i neb. Drwy feithrin ein gallu i weld harddwch yn y manylion bach hynny, a fyddai’n cael eu colli fel arall, rwy’n gobeithio cynnig ffyrdd o synnu ein hunain a chael mewnwelediad hyfryd i’n proses ein hunain. I gael ein hysbrydoli gennym ni ein hunain!!

Bydd rhan olaf y prosiect yn cael ei chynnal ym mis Mai.’

– Louise Jensen, Artist

Mae’r sgyrsiau creadigol a’r sesiynau celf yn agored i bawb, ac yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech chi ymuno, e-bostiwch 4 Winds i gofrestru ar gyfer y sesiynau: contact@4winds.org.uk

Neu cysylltwch â Louise Jensen: stiwdio3@gmail.com i gael rhagor o wybodaeth am ei hymweliadau â’r amgueddfa a’i gweithdai.

I ddysgu rhagor am Raglen y Celfyddydau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ewch i: http://www.cardiffandvale.art

Leave a Reply