


We are delighted to display a series of photographs by Ceri Leigh, who studies and documents wildlife near her home in the Brecon Beacons.
Ceri studied Wildlife Illustration, including photography, at Carmarthenshire College of Art and Countryside Management in Snowdonia. She later gained an MSc in Science Communication at Imperial College, London while working as a graphic designer. Ceri went on to work as Exhibitions Design & Conservation Manager at the Natural History Museum, London for many years.
An accident on her way home one day resulted in severe post-traumatic stress disorder (PTSD). Now retired, while walking and observing wildlife, Ceri takes photographs of the landscapes and natural history near her home. Keeping the process simple and with an intimate style, Ceri aims for the effect of a painting, to give the viewer a sense of the beautiful flora and wildlife in the Brecon Beacons.
Ceri has also published a book: ‘Life on the Floodplain – A Garden Wildlife Diary 2020’ which follows the wildlife observed in her garden nearby the Usk floodplain during the pandemic in 2020 and tells the bigger story of trauma, mental health and the power of nature to help heal the mind.
‘Life on the Floodplain – A Garden Wildlife Diary 2020’ can be ordered via local bookshops or purchased online from Amazon and all major suppliers.
The exhibition will run until the 7th June 2022.
If you require further information, would like to purchase any of the artworks on show, or would like to be informed about future exhibitions please contact: magda.lackowska@wales.nhs.uk
For more updates about the Arts for Health and Wellbeing programme, please visit our social media pages on Facebook and Twitter @CAVuhbArts, and Instagram @thehearthgallery.



Mae’n bleser gennym arddangos cyfres o ffotograffau gan Ceri Leigh, sy’n astudio ac yn dogfennu bywyd gwyllt ger ei chartref ym Mannau Brycheiniog.
Bu Ceri yn astudio Darlunio Bywyd Gwyllt, gan gynnwys ffotograffiaeth, yn Ysgol Gelf Caerfyrddin a Rheolaeth Cefn Gwlad yn Eryri. Yn ddiweddarach, enillodd MSc mewn Cyfathrebu Gwyddoniaeth yng Ngholeg Imperial, Llundain tra’n gweithio fel dylunydd graffeg. Aeth Ceri ymlaen i weithio fel Rheolwr Dylunio a Chadwraeth Arddangosfeydd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain am flynyddoedd lawer.
Cafodd ddamwain ar ei ffordd adref un diwrnod a arweiniodd at anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) difrifol. Bellach wedi ymddeol, wrth gerdded ac edrych ar fywyd gwyllt, mae Ceri yn tynnu lluniau o’r tirweddau a’r hanes naturiol ger ei chartref. Gan gadw’r broses yn syml a gydag arddull bersonol, mae Ceri yn anelu at greu effaith paentiad, i roi ymdeimlad i’r gwyliwr o’r fflora a’r bywyd gwyllt hardd ym Mannau Brycheiniog.
Mae Ceri hefyd wedi cyhoeddi llyfr: ‘Life on the Floodplain – A Garden Wildlife Diary 2020’ sy’n dilyn y bywyd gwyllt a welodd yn ei gardd gerllaw gorlifdir afon Wysg yn ystod y pandemig yn 2020 ac sy’n adrodd stori ehangach am drawma, iechyd meddwl a phŵer natur i helpu i wella’r meddwl.
Gellir archebu ‘Life on the Floodplain – A Garden Wildlife Diary 2020’ drwy siopau llyfrau lleol neu ei brynu ar-lein gan Amazon a’r holl brif gyflenwyr.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan 7 Mehefin 2022.
I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu unrhyw un o’r darnau celf sy’n cael eu harddangos, neu os hoffech gael gwybod am arddangosiadau’r dyfodol, cysylltwch â: magda.lackowska@wales.nhs.uk
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter @CAVuhbArts ac Instagram @thehearthgallery.